Mae diwrnod Sul y Tadau yn gyfle i ddathlu a dweud diolch. Gyda llai ’na pythefnos i fynd tan y diwrnod mawr (16 Mehefin), Na-nôg Caernarfon ydy’r lle i ddod ar gyfer eich cardiau ac anrhegion!
Mae dewis helaeth o gardiau Cymraeg ar gyfer y diwrnod arbennig ar gael yn y siop – cardiau ar gyfer Dad, Taid, Tad-cu a hyd yn oed eich Gwr ar ddiwrnod Sul y Tadau!
Mae anrheg i siwtio pob poced yma – boed yn gylch allweddi am £3 neu yn glustog wedi ei phersonoleiddio am £20!
Mae dros 600 o gryno ddisgiau i’w cael yn y siop yn cynnwys CD newydd sbon Cowbois Rhos Botwnnog sydd wedi bod yn gwerthu yn hynod o dda ers ei rhyddhau, bocs set o gryno ddisgiau ‘Edward H’, feinyl ‘Yma o Hyd, Dafydd Iwan’ a llawer, llawer mwy!
Siwr eto eleni bydd y clasur ‘C’mon Midffild’ ar DVD yn anrheg gwerth ei chael ar ddiwrnod Sul y Tadau. Ydy Dad neu Taid efo’r casgliad llawn? Wyddoch chi fod yna 11 o DVDs? Pob un ar gael yn unigol neu gallwch brynu’r cwbwl gyda’i gilydd mewn un pryniant am bris bargen.
Mae dewis helaeth o lyfrau i’w cael yn y siop ac ar y wefan. Yn newydd sbon ac mewn pryd ar gyfer y diwrnod yma mae llyfr newydd DJ Huw Stephens o uchafbwyntiau gyrfaoedd artistiaid recordio pennaf Cymru sydd yn canu yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Hefyd llyfr newydd Sioned Wyn Roberts, ‘Madws’ sydd yn nofel ffantasi hanesyddol wedi’i gosod yn 1752. Neu beth am lyfr newydd Glyn Price, ‘Golau Arall’ sydd yn gyfuniad ysbrydoledig o ddarluniau a geiriau, clawr caled.
Falle bod angen rhywbeth newydd i wisgo ar y dyn pwysig sydd yn eich bywyd – beth am gap newydd i fynd i wylio’r pel-droed neu grys-t/hwdi newydd.
Galwch draw i’r siop yng Nghaernarfon yn fuan (Llun i Sadwrn 9.30-5.00); neu os hoffech archeb wedi ei phostio, ewch ar ein gwefan nawr – www.na-nog.com – ond byddwch yn sydyn i wneud yn saff ei fod yn cyrraedd mewn pryd!
Diolch am eich cefnogaeth.