Roedd mis Mai yn fis prysur i GISDA wrth i ddau griw o bobl ifanc o Flaenau Ffestiniog, Caernarfon a Pwllheli fynd ar deithiau i Ynys Enlli a Gwlad Pwyl! Mae gyfleoedd fel hyn mor bwysig i bobl ifanc gael gyfle i ddatblygu sgiliau, dysgu am ddiwylliannau gwahanol ac i greu atgofion bythgofiadwy.
Roedd y trip i Ynys Enlli yn gyfle unigryw i’n pobl ifanc brofi bywyd ar yr ynys, a byw heb drydan, dŵr poeth na wifi! Cawsom groeso arbennig gan y wardeniaid, ac roedd yn wych gallu dysgu mwy am yr ynys. Fe wnaethom ddysgu am eu gwaith cadwraeth, a’r cynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod yr ynys yn parhau i ddatblygu ond eto’n llwyddo i gadw’r un hud i ymwelwyr. Cawsom brofiadau gwych fel gwers yoga, mynd am dro i’r arsyllfa adar, gweithdy embsoio alwminiwm gyda’r artist preswyl, dysgu am fywyd gwyllt yr ynys a gwneud gwaith cynnal a chadw gyda’r wardeniaid. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Enlli a Chronfa Treftadaeth y Loteri am wneud y trip yn bosib, ac i holl drigolion a wardeniaid yr ynys am ein croesawu i’r ynys a chynnal gweithgareddau gwych i ni.
Roedd criw arall o bobl ifanc GISDA wedi mynd ar daith i Wlad Pwyl, a dros bum diwrnod roeddent yn teithio ar draws y wlad gan ymweld â thair dinas, Kraków, Łódź a Warsaw. Mae GISDA yn rhedeg prosiect LHDTC+ ar draws ein hybiau yng Ngwynedd, ac roedd y daith hon yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am sefydliadau yng Ngwlad Pwyl sydd yn cefnogi pobl ifanc LHDTC+, a chlywed straeon pobl ifanc sydd yn derbyn cefnogaeth ganddynt. Kraków oedd y lleoliad cyntaf, a cafodd y criw gyfle i grwydro’r ddinas hanesyddol, blasu bwyd traddodiadol Pwyleg ac ymweld â rhai o’r atyniadau enwog. Yna aethant ar y trên i Łódź, dinas tua 170 milltir i’r gogledd o Krakow. Yma roeddent yn cwrdd ag Anna a Mariusz o Gyfadran y Gwyddorau Addysgol ym Mhrifysgol Łódź i ddysgu mwy am eu gwaith gyda pobl ifanc. Nesa roedd y criw yn dal trên i’r brifddinas, Warsaw. Yma fe aethant i weld canolfan Po Drugie, Mae Po Drugie yn cynnig llety a chefnogaeth i bobl ifanc yn y brifddinas, ac mae ganddyn nhw brosiect yn arbennig er mwyn cefnogi pobl ifanc o’r gymuned LHDTC+. Yna ymlaen i Warsaw House, i ddysgu mwy am eu gwaith i gefnogi ac amddiffyn pobl ifanc o’r gymuned LHDTC+ yng Ngwlad Pwyl rhag digartrefedd a rhwystrau economaidd a chymdeithasol. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl sefydliadau sydd wedi croesawu ac ysbrydoli pobl ifanc GISDA yn ystod y daith, a hefyd i gynllun Taith Llywodraeth Cymru am ariannu’r daith a rhoi cyfleoedd arbennig i bobl ifanc Gwynedd.
Mwy o wybodaeth ar ein cyfryngau cymdeithasol @Gisdacyf ac ein gwefan https://www.gisda.org.