Lotti & Wren: Dathlu 20 mlynedd mewn busnes

Prynu’n Lleol Gwynedd bu’n sgwrsio gyda Jen, perchennog Lotti & Wren.

Jen (Perchennog Lotti & Wren) yn dathlu ugain mlynedd o'r siop.

Jen (Perchennog Lotti & Wren) yn dathlu ugain mlynedd o’r siop.

Yn ffodus iawn i Gaernarfon, bu’n rhaid i Jennifer Hanlon adael bywyd dinesig Dulyn nôl yn 2004 i agor siop mewn man mwy fforddiadwy. Ugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae Lotti & Wren yn un o fusnesau eiconig Stryd y Plas. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, Prynu’n Lleol Gwynedd bu’n holi Jen am fywyd fel dynes busnes yng Ngwynedd.

‘Pan o ni’n dechrau doedd na ddim social media, mi oedd o’n anodd cael enw’r busnes allan yna, dwi’n cofio jest mynd a flyers rownd. Mae’n haws rŵan – ond mae’n gallu bod yn anodd cael dy weld weithiau, ti’n gallu boddi yn yr holl bethau sy’n mynd ymlaen.

Un peth sy’n lot haws ydi ffeindio artistiaid ar social a chefnogi busnesau bach. Mae’n gymaint haws i artistiaid lleol a busnesau bach gael gwaith heb orfod symud. Dwi’n falch o allu cynnig platfform i artistiaid bach a thalent Cymraeg.

Dwi’n cefnogi gwaith lot o genod – Buddug, Lora Wyn, Anna Gwenllian, Fizzgoespop a Niki Pilkington i enwi rhai.

Mae gen i gymaint o ffrindiau genod sy’n self employed – da ni gyd yn cefnogi ein gilydd a chadw’n gilydd i fynd. Hygs, crio, chwerthin, we’ve had it all!

Ar Stryd y Plas mae gen ti Siop Iard, Siop Manon, Petalau Pert, Palas Print, Scoops a fi – genod sy’n rhedeg y rhain i gyd ac mae’r stryd mor llwyddiannus oherwydd hynny. Proper team effort.

Mae’n rili bwysig bod yna fwy o genod mewn busnes. Mae’n rhoi’r flexibility i neud penderfyniad dy hun a byw dy fywyd fel ti eisiau.

Bagiau 20 mlynedd Lotti & Wren
Bagiau 20 mlynedd Lotti & Wren

Mae ’na heriau weithiau wrth gwrs, dwi di jyglo dau o blant heb gyfnod mamolaeth – dwi’n cofio fy mhartner yn dod a’r ferch mewn tair gwaith y dydd i fi fwydo yn y stock room – juggle massive, ond ti jest yn neud o!

Mae mor bwysig bod gofodau gwaith yn hyblyg i alluogi genod i gael y bywydau maen nhw eisiau. Mae Zöe, sy’n gweithio yn y siop, wedi gallu dod yn ôl i’r gwaith yn fuan ar ôl cael trydydd plentyn gan ei bod yn gallu bwydo yn y siop – yn ystod amser gwaith, wrth gwrs.

Tydi rhedeg busnes byth yn stopio bod yn sgeri – dwi dal yn poeni weithiau bod neb am brynu pethau. Mae Brexit a Covid wedi gadael effaith anferth. Ond os ti’n cadw dy hunaniaeth unigryw ti’n iawn. Siopau annibynnol unigryw ydi’r dyfodol.

Dwi isho cadw i fynd i gadw Caernarfon i fynd – dwi’n rhan o’r dre.’

Am ragor o wybodaeth am raglen Prynu’n Lleol ewch i www.prynulleol.cymru neu e-bostiwch prynulleol@gwynedd.llyw.cymru a chofiwch ddilyn ar Facebook, X (Twitter), Instagram a TikTok.