Cyhoeddi Enillydd Giveaway Dre

Mae Caernarfon360 wedi cyhoeddi mai Carolyn Parry yw enillydd Giveaway Dre.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Roedd Giveaway dre yn rhoi’r cyfle i gystadleuwyr ennill hampyr o wobrau o fusnesau lleol Caernarfon.

Daeth busnesau lleol tref Caernarfon at ei gilydd i gynnal cystadleuaeth, gyda gwobrau dros £50.

Roedd y gystadleuaeth, a oedd yn digwydd ar dudalen Facebook Caernarfon360, yn rhan o ymgyrch i annog pobol Caernarfon i wario ym musnesau lleol y dref y Nadolig hwn.

Roedd busnesau Adra, NaNog, Cyfarchion, Gray Thomas, Gwyndaf Williams a’i Fab a Scoops yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Nadoligaidd, sy’n agored i bobol Caernarfon a thu hwnt.

Mae Carolyn Parry yn dod o Gaernarfon, ac mae’n gweithio yn Tesco yn y dref.