Yn ystod mis Hydref cafodd chwaraewyr hoci ifanc a hŷn afael yn eu ffyn eto am y tro cyntaf ers mis Mawrth.
Ar nos Fercher, 14eg o Hydref dychwelodd ieuenctid niferus y clwb i’r cae gyda’r criw hŷn yn dychwelyd ar Hydref 21. Ymysg y newidiadau oherwydd Covid-19, mae angen cofrestru trwy lenwi ffurflen Covid-19 cyn bob sesiwn, mae angen golchi dwylo cyn camu i’r cae bob tywydd, mae’r holl beli a nwyddau ymarfer yn cael eu golchi rhwng bob sesiwn. Y newid mwyaf yw’r newid i’r amserlen. Bellach mae’r noson yn cael ei rannu i 3 sesiwn yn hytrach na 2. Oherwydd niferoedd anhygoel o’r ifanc oedd yn mynychu, roedd rhaid newid rhywbeth er mwyn gallu eu croesawu i gyd yn saff a’n ddiogel. Felly mae’r oed cynradd wedi eu gwahanu gyda phlant blwyddyn 2-4 a phlant blwyddyn 5+6 yn mynychu pob yn ail wythnos am 18:00, blynyddoedd 7-9 am 19:00 gyda blynyddoedd 10+ ag oedolion am 20:00.
Ni fydd ymarferion yn ystod cyfnod clo am bythefnos ond gobeithiwn ail-afael arni wedi hynny. Cadwch olwg ar ein tudalen Facebook am wybodaeth.
Nos Fercher oedd y cyfle cyntaf i allu cyflwyno carfan 2019-20 gyda’u gwobrau, medalau i bawb am ddod ar frig ail adran Cynghrair Hoci Merched Gogledd Cymru. Roedd cyfle hefyd i gyflwyno tlysau i Llinos Williams (Chwaraewr y Capten), Catrin Owen (Chwaraewr y Chwaraewyr) a Ela Jones (Chwaraewr Ifanc). Gallwch ddarllen mwy yma.
Mae’r gynghrair wedi ei ohirio nes fis Ionawr 2021 ar y cynharaf. Edrychwn ymlaen at allu rhannu newyddion o’n gemau yn fuan!