Angharad Gwyn yw perchennog cwmni Adra ym Mharc Glynllifon, ar gyrion Caernarfon, cwmni sy’n arbenigo mewn anrhegion a nwyddau tŷ chwaethus a chyfoes Cymreig.
Sefydlodd y busnes yn 2007 ar ôl penderfynu gadael ei swydd fel Uwch Gynhyrchydd y We gyda’r BBC yng Nghaerdydd er mwyn gallu dychwelyd i fyw i ardal Caernarfon, lle cafodd ei magu.
Yn ôl Angharad, sydd bellach yn byw yn Llandwrog gyda’i theulu;
“Gwyddwn fod cymaint o nwyddau chwaethus yn cael eu gwneud yng Nghymru ond nid oedd yn hawdd eu prynu.
“Mae popeth â werthwn unai wedi ei wneud yng Nghymru, wedi eu dylunio gan ddylunwyr o Gymru neu yn amlygu’r iaith Gymraeg.
“Cychwynais gyda 30 o nwyddau wedi’u dewis yn ofalus ar ein gwefan adrahome.com cyn agor siop ym Mharc Glynllifon yn 2013.
“Bellach, rydym yn gwerthu bron i 2000 o nwyddau ac yn cyflogi 8 o ferched lleol.”
Gofynnodd Caernarfon 360 iddi sôn am effaith pandemig 2020 ar y busnes;
“Roedd pethau’n edrych yn reit ddu canol mis Mawrth o wybod y byddem yn colli gwerthiant dwy eisteddfod, ein prif ddigwyddiadau stondin blynyddol, ynghyd â chau’r siop am 4 mis.
“Ond mae’r cynnydd rhyfeddol mewn gwerthiant arlein ers diwedd Mawrth a’r gefnogaeth barhaus gan ein cwsmeriaid wedi’n llorio.
“Rydym wedi cael y Nadolig prysuraf erioed eleni. A dweud y gwir, mae wedi teimlo fel ’Dolig ers mis Ebrill gyda’r gwerthiant arlein uchaf yn hanes y cwmni!
“Mae hyd yn oed gwerthiant ein siop yng Nglynllifon yn uwch nag arfer, ac ymdeimlad amlwg ymhlith ein cwsmeriaid i siopa a chefnogi’n lleol.
“Mawr yw ein diolch i bawb am ein cefnogi!”
Mae Adra yn parhau i gynnal gwasanaeth casglu o’r siop. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.