Mae Cyngor Tref Caernarfon wedi sicrhau grant i greu hwb cymunedol ar gyfer trwsio ac ail-ddefnyddion nwyddau yng nghanol tre Caernarfon.
Daw’r grant gan Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21 Llywodraeth Cymru.
Mae’r fenter yn cael ei sefydlu ar ôl blwyddyn a mwy o gydweithio sylweddol gan grwpiau cymunedol er lles y dre, gan gynnwys cynllun Porthi Pawb, cynllun Porthi Plantos, a chynllun Porthi Plantos – Dillad. Yn ôl Cyngor Tref Caernarfon, sylweddolwyd bod amcanion y cynlluniau hyn yn cyd-fynd ag amcanion Cronfa Economi Gylchol y Llywodraeth, ac fe wnaed cais am y grant.
Bydd y cynllun yn mynd ati i ddod o hyd i leoliad addas a gwag yn y dre, yn y gobaith y bydd y cynllun yn cyfrannu fymryn at adfywio canol y dre. Gyda lleoliad addas, a chymorth grant, bydd y cynlluniau uchod yn gallu prynu rhewgelloedd ac oergelloedd er mwyn storio mwy o fwyd i’w ddosbarthu yn lleol. Mae cynllun arall ar droed i ail-ddefnyddio dillad plant – cynllun sydd, ar hyn o bryd, yn dosbarthu dillad am ddim o selar yr Institiwt. Efo lleoliad addas, bydd y dillad ar gael yn rhwydd i bawb eu gweld a’u cymryd. Nid oes tâl am y dillad, ond derbynnir unrhyw gyfraniadau’n ddiolchgar.
Mae ail a thrydydd cam y cynllun yn cynnwys gwasanaeth trwsio dillad, offer trydanol a dodrefn a hyfforddiant coginio syml, ar y cyd efo’r Banc Bwyd.
Dywedodd Sion Wyn Evans, Clerc y Dref, “Mae Cyngor Tref Caernarfon yn falch fod arian grant wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl Caernarfon mewn nifer o wahanol ffyrdd, ac hefyd fod hyn yn cynorthwyo i wella’r amgylchedd drwy ail-gylchu. Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd pawb o fewn y Cyngor i symud y fenter yn ei blaen, a chydweithio gydag eraill, er budd trigolion y dref mewn cyfnod anodd i bawb.”
Ar ran Porthi Pawb, dywedodd Chris Summers, Cydlynydd y cynllun, “Mae Porthi Pawb, Porthi Plantos a Porthi Plantos Dillad, ynghyd â’r cynllun Foodshare efo Tesco, wedi llwyddo’n arbennig dros y 9 mis dwytha – gan fynd o nerth i nerth. Rydym yn ffodus iawn ein bod wedi cael y cyfle i ddatblygu prosiect a fydd yn cael ei groesawu gymaint gan ein cymuned anhygoel. Mae posibiladau prosiect cymunedol fel hyn yn ein tref annwyl yn aruthrol – ac mae unrhyw beth yn bosib pan ddaw cymaint o bobl positif ac angerddol at ei gilydd.”