gan
Osian Wyn Owen
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Cyngor Tref Caernarfon wedi penderfynu canslo’r noson tân gwyllt flynyddol.
Mae’r Cyngor yn honni “nad oedd llawer o ddewis o dan yr amgylchiadau”, ac mae’r newyddion yn dod ddeuddyd ar ôl canslo noson tân gwyllt Bangor.
Cofiwch, os oes digwyddiad yn cael ei drefnu yn ardal Caernarfon, gallwch ei gynnwys ar galendar ar-lein Bro360.