gan
Osian Wyn Owen
Mae’r criw sydd ynghlwm â menter O Law i Law yng Nghaernarfon wedi rhannu lluniau o hen siop Holland and Barret ar ei newydd wedd.
Rhannwyd y llun gan ddiolch i Designer Signs am osod yr arwydd ac i Dafydd Owain am ddylunio’r logo.
Ffrwyth llafur Cyngor Tref Caernarfon ydi’r siop, wedi iddynt sicrhau grant i greu hwb cymunedol ar gyfer trwsio ac ail-ddefnyddio nwyddau yng nghanol tre Caernarfon.
Daeth y grant gan Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21 Llywodraeth Cymru.
Mae’r fenter yn cael ei sefydlu ar ôl blwyddyn a mwy o gydweithio sylweddol gan grwpiau cymunedol er lles y dre, gan gynnwys cynllun Porthi Pawb, cynllun Porthi Plantos, a chynllun Porthi Plantos – Dillad.