Mae Côr Dre yn lansio fideo newydd o’r gân ‘Baba Yetu’ i nodi tymor cynta’r côr o ymarferion dan do ers gwanwyn 2020.
Ers i’r côr ailddechrau ymarfer dan do ym mis Medi 2021, mae dros hanner cant o aelodau wedi bod yn dod i’r ymarferion wythnosol llwyddiannus, yn cynnwys nifer helaeth o aelodau newydd.
Gyda pherfformiadau dal yn anodd i’w trefnu, penderfynodd y côr recordio’r gân enwog ‘Baba Yetu’ gan Christopher Tin, cân gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer y gêm gyfrifiadurol Civilization, gyda’r geiriau’n addasiad o Weddi’r Arglwydd gan Chris Kiagri.
Aeth y côr i leoliad eiconig Ben Twthill i recordio’r fideo, gyda golygfeydd godidog dros dref Caernarfon yn gefndir i’r fideo, gyda’r unawd yn cael ei ganu gan Jamie Dawes-Hughes.
Yn ôl Siân Wheway, Arweinydd y Côr;
“Mae hi wedi bod yn gymaint o donig i ailddechrau canu dan do fel côr, ac er poeni am faint fyddai eisiau ymuno’n yr ymarferion cyn dechrau, mae hi wedi bod yn wych gweld aelodau newydd yn ymuno a hen aelodau’n dychwelyd wrth i ni ailgydio’n y canu.
“Mae ganddon ni fesurau COVID trwyadl yn ystod yr ymarferion, felly mae hynny wedi rhoi hyder i’r aelodau ddod aton ni i ganu ac mae’r canlyniadau’n amlwg, wrth i ni fwynhau ailganu’r hen ffefrynnau a dysgu darnau newydd.
“Dwi wrth fy modd yn arwain lleisiau ifanc y côr bob nos Iau ac mae’r fideo newydd yn gyfle i ni ddangos bod corau Cymru ar y ffordd yn ôl, ar ôl cyfnod anodd iawn i bawb.”
Bydd y fideo yn mynd yn fyw ar Facebook a YouTube y côr am 7 o’r gloch nos Wener, 19 Tachwedd.
Gallwch wylio’r fideo ar Youtube yn y fan hon.