Y Cofi sydd yn cadw trefn ganol cae! 

Holi Iwan Arwel am ei siwrna’ fel dyfarnwr rhyngwladol ⚽️

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
C1AA4E20-60A3-4B55-875F
62FD1A32-9418-425D-9009
107A4C06-6A8E-4B98-BAB7
01BC8FE1-1DB7-46E0-B616

Mae hi wedi bod yn gret gallu cael y cyfle i holi Iwan Arwel, y dyn sydd ganol cae yn cadw trefn ar gemau pel droed o amgylch y byd!

Mae Iwan wedi tyfu i fyny yn Bontnewydd ond bellach yn byw efo’i deulu ifanc yn Conwy.

Mynychodd Iwan Ysgol Bontnewydd, ger Caernarfon, symud ymlaen i ysgol uwchradd Syr Hugh Owen cyn mynd ymlaen i raddio mewn Hanes yn Prifysgol Bangor.

Mae Iwan bellach yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru o ddydd i ddydd ond ar y penwythnosau mae i’w weld yn dyfarnu ar gaeau pêl-droed Cymru a led led y Byd.

Mae Iwan yn cefnogi a dilyn tîm Pel Droed Leeds a roedd hi yn gret cael y cyfle i holi Iwan, yng nghanol ei amserlen prysur am ei siwrna’ fel dyfarnwr rhyngwladol.

Sud gesdi mewn i ddyfarnu?

Roeddwn yn ifanc iawn, dwi’n cofio mynd i wylio gêm yn cae Bontewydd pan oeddwn tua 13 a doedd neb i redeg y lein. Fy ffrind sydd hefyd o Bontnewydd ac sy’n gweithredu ar Uwch Gynghrair Cymru ac ar lefel ryngwladol FIFA, Gareth Jones oedd yn dyfarnu, felly nes i gynnig helpu allan ar y lein. Nes i fwynhau’r profiad wedyn mynd ar gwrs dyfarnu am saith wythnos i Waunfawr, cyn pasio yn 13 oed.

Ydi dyfarnu yn waith llawn amser?

Mae’n teimlo fel gwaith llawn amser ond yng Nghymru tydio ddim. Dyma’r elfen anoddaf un o ddyfarnu ar y lefel uchaf, cael y balans rhwng gweithio llawn amser, treulio amser efo’r teulu a chael amser i hyfforddi, chadw’n heini a dyfarnu gemau pêl-droed.

Mae’r amserlen yn gallu bod yn brysur iawn, rhwng ymarfer tua 4 gwaith yr wythnos heb sôn am deithio ar draws y wlad i ddyfarnu gemau a weithiau hedfan dramor hefyd i gemau rhyngwladol mae’n gallu bod yn waith caled a phrysur, ond erbyn hyn dwi wedi arfer ac mae fy nheulu mor gefnogol ac yn rhan mawr iawn o fy llwyddiant.

Wyt ti yn cael trafeilio yn bell?

Ydw, dwi’n lwcus iawn, dwi wedi dyfarnu yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop erbyn hyn. Cefais hefyd brofiad o ddyfarnu yn China nol yn 2019 am bythefnos. Roedd y cyfnod yna yn ofnadwy o brysur, un wythnos roeddwn yn dyfarnu yn Israel, hedfan yn ôl i Gymru am ddiwrnod cyn cychwyn eto am China y diwrnod wedyn!

Roedd cael gwahoddiad i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd ar gyfer Prifysgolion yn anhygoel. Roedd cael profi diwylliant newydd a chael cwrdd a gweithio gyda dyfarnwyr rhyngwladol o Hong Kong, Awstralia, Sweden, Portiwgal, Iran, Ynysoedd Solomon yn anhygoel. Roedd pawb gyda’u steil ei hunain a phawb yn dod ymlaen gyda’u gilydd yn wych.

Un o fy hoff lefydd i fynd ydi Twrci, roeddwn yno am bythefnos yn Antalya mewn twrnament UEFA. Mae nhw wrth eu boddau gyda pêl-droed yno ac roedd y croeso yn wych.

Y lle oeraf i mi erioed fod oedd Belarus ym mis Hydref 2018. Roedden ni’n dyfarnu gemau mewn tymheredd o -10 gradd. Roedd hynny yn ‘normal’ i’r timau o Belarus ond nid i mi o Gymru!

Hoff gêm ti wedi fwynhau bod yn rhan ohono?

Y prif gêm a nôd unrhyw ddyfarnwr o Gymru i wneud ydy rownd derfynol Cwpan Cymru. Honno yw’r gystadleuaeth bwysicaf yn y calendr pêl- droed yng Nghymru. Cefais fy newis i ddyfarnu’r ffeinal yn 2018 rhwng Cei Conna ac Aberystwyth. Roedd hi’n benwythnos eithriadol o boeth a chofiadwy.

Mae sawl gêm allai restru sy’n gofiadwy. Roeddwn yn 4ydd swyddog yn gêm olaf Chris Coleman fel rheolwr Cymru pan chwaraeon nhw’n erbyn Panama mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roeddwn hefyd ddigon lwcus i fod yn 4ydd swyddog pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Sbaen yn Stadiwm y Mileniwm mewn gêm gyfeillgar, cyn cael fy ngwahodd nol tua 10 mis wedyn i’r stadiwm i ddyfarnu Man Utd v AC Milan o flaen 70,000 o dorf. Roedd cael dyfarnu yn y stadiwm yna gyda’r to wedi cau yn brofiad gwych.

Pa chwaraewyr enwog wyt ti wedi gyfarfod / ddyfarnu?

Mae cymaint i’w rhestru fyswn i yma drwy’r dydd a nos . . . ond fyddai byth yn edrych ar y rhestr cyn y gêm a meddwl ‘wwww mae hwn yn enwog’.
Mae’n bwysig i chi drîn pob chwaraewr yr un fath ar y cae, dim otch pa mor enwog ydyn nhw.

Wyt ti yn ddyfarnwr caled ?

Na, dwi ddim yn credu fod pobl yn fy nisgrifio fel un caled, ond yn hytrach un teg, hyderus sydd ddim ofn gwneud penderfyniadau sydd weithiau yn amhoblogaidd. Ond dyna sydd rhaid wneud ar adegau, gwneud penderfyniadau sydd ddim yn plesio pawb, ond sy’n gywir yn nhermau rheolau’r gêm.

Oes gen ti uchelgais / gôl yn y byd dyfarnu?

Fy uchelgeisiau wrth dyfu fyny oedd i ddyfarnu ffeinal cwpan Cymru a chynrychioli Cymru ar y rhestr rhyngwladol. Dwi wedi bod yn lwcus iawn i lwyddo i neud y ddau. Dwi yn ddyfarnwr rhyngwladol bellach ers 2017 ac fel y soniais, dwi wedi dyfarnu ffeinal Cwpan Cymru nol yn 2018. Ond rydw i wastad yn gosod targedau i fi fy hun a fy uchelgais yw gwneud fy ngorau ym mhob gêm a chadw fy nhraed ar y ddaear.

Arwr / Dylanwad Bositif arnat?

Mae sawl un wedi bod yn hynod gefnogol o fy ngyrfa, ond fyswn i methu gwneud yr hyn dwi yn ei wneud heb gefnogaeth gan fy nheulu. Mae fy rhieni wastad wedi bod yno yn gefnogaeth a fy nghario i gemau cyn i mi allu hyd yn oed yrru car.

Mae fy mam a fy fam yng ngyfraith yn wych pan mae hi’n dod i fod eisiau gwarchod y plant pan dwi i ffwrdd a’r wraig sydd hefyd yn gweithio.

A fy ngwraig, Laura sydd wastad wedi bod yn gefnogol o fy ngyrfa ac yn amyneddgar iawn pan mae ‘na ebost yn cyrraedd yn dweud fy mod yn gorfod mynd i ffwrdd i ddyfarnu.

Dwi’n ddiolchgar iawn i bob un ac i sawl un arall o fewn y byd dyfarnu sydd wedi fy nghefnogi.

Oes gen ti gyngor i unrhyw un sydd yn meddwl rhoi cynnig / cychwyn ar eu gyrfa ar ddyfarnu mewn pel droed?

Ewch amdani, wir yr mae’r peth gorau i mi erioed ei wneud. Fe ddechreuodd fel hobi, ond mae o bellach yn ran hanfodol a phwysig o fy mywyd.

Dwi wedi bod yn lwcus o gael cyfarfod ffrindiau oes a chael ymweld a gwledydd anhygoel ar draws y byd yn cynrychioli fy ngwlad.
Mae cymaint wedi newid ers i mi wneud y cwrs, mae posib gwneud y cyfan o adre erbyn hyn ar y cyfrifiadur.
Os oes gan unrhyw un ddidordeb mae’r manylion yma:

https://becomearef.wales 

Oes buddion o fod yn ddyfarnwr? Unrhyw ‘perks’?

Does dim ‘perks’, ond mae cael cynrychioli eich gwlad mewn pêl-droed yn brofiad anhygoel a balch.

Dwi wedi cael ymweld a rhai gwledydd faswn i byth yn dychmygu mynd yno ar wyliau, ond wedi mwynhau a dwi’n cofio pob un ohonyn nhw. Mae pob un yn unigryw am resymau gwahanol.

Un peth da arall yw cael bod yn rhan o bêl-droed yng Nghymru a chael cyfarfod a gweithio gyda pobl newydd. Mae hefyd yn ffordd wych o gadw’n heini.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb rhoi cynnig ar gychwyn ddyfarnu mae digon o gyfleoedd yn Gaernarfon a dwi’n siwr byddwch yn cael ei gwerthfawrogi gan ni fyddai gemau pêl droed yn bosib heb ddyfarnwyr!!