Cynhaliwyd Pencampwriaethau Cymru ddiwedd fis Gorffennaf yng Nghasnewydd. Yno, cafodd Abbi, sydd ond yn 17 oed, ei choroni’n Bencampwr Benywaidd Cymru yn ogystal â sicrhau ei chanlyniad personol gorau eto.
Mae Abbi wedi bod yn hyfforddi ym maes athletau ers oedd hi’n naw oed. Fodd bynnag, dim ond y llynedd yr aeth hi ati i hyfforddi’n llawn i daflu gwaywffon. Mae hi’n hyfforddi yn Nhrac Athletau Treborth sy’n eiddo i Brifysgol Bangor tua thair gwaith yr wythnos.
Wythnos diwethaf, cafodd Abbi y cyfle i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth Brydeinig a gynhaliwyd yng Ngholeg Moulton, Northampton a llwyddodd i sicrhau’r bedwaredd wobr.
Dywedodd Abbi – “Roedd yn deimlad anhygoel pan wnes i sylweddoli fy mod yn Bencampwr Cymru! Dw i wedi bod yn hyfforddi’n aml iawn yn ddiweddar, felly roedd yn wych gweld bod y gwaith caled wedi talu ar ei ganfed”.
Mae lleoedd ar gael ar y Cwrs Chwaraeon (Addysg Awyr Agored) yng Ngholeg Menai, cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.