Mae Cymdeithas Ddinesig Caernarfon wedi gosod plac ar siop Morrisons y dre er mwyn nodi hen Safle Gorsaf Drenau Caernarfon.
Mae Allison Williams, Pencampwr Cymunedol Morrisons Caernarfon wedi rhannu llun o’r plac wedi ei osod, sy’n nodi bod yr orsaf wedi bod ar y safle rhwng 1852 a 1970.
Roedd yr orsaf yn rhan o reilffordd Bangor a Chaernarfon rhwng y dre a Phont Menai ger Bangor.
Agorwyd yr orsaf ar 1 Gorffennaf 1852 ac fe’i caewyd ar 5 Ionawr 1970, er iddi gael ei hail-agor am gyfnod byr ar gyfer nwyddau’n unig yn dilyn tân Pont Britannia.
Arferai teithiau fynd o’r orsaf i Lanberis ac Afon Wen ond caewyd y lein yn 1964, yn dilyn cyflwyno Deddf Beeching.
Bellach, mae Rheilffordd Ucheldir Cymru (WHR) yn berchen ar orsaf reilffordd Caernarfon ar safle gwahanol ar Ffordd Santes Helen.
Oes gynnoch chi atgofion o Orsaf Drenau Caernarfon?