Mae chwaraewraig rygbi ryngwladol, sydd hefyd yn adnabyddus am hyfforddi cŵn defaid, wedi cofrestru ar gwrs dwys … ei cham cyntaf i wireddu ei breuddwyd o fod yn fydwraig!
Dechreuodd Gwenllian Pyrs sy’n 23 oed ac yn dod o Ysbyty Ifan, ger Betws-y-Coed, ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Wedi cwblhau’r cwrs, bwriada fynd i brifysgol i ddilyn cwrs bydwreigiaeth.
Ganwyd Gwenllian, sy’n bridio ac yn hyfforddi cŵn defaid ar fferm y teulu yn Nyffryn Conwy, ym Mangor gan gychwyn chwarae rygbi yn Nant Conwy.
Ymunodd Gwenllian garfan Merched Caernarfon pan yn gorfod chwilio am dîm merched a pwy well na Pencampwyr Cymru oedd yn cynnwys merched ysbydoliedig eraill rhyngwladol Cymru i’w chefnogi, Rachel Taylor, Jessica Kavanagh, Elen Evans, Jennifer Davies, Teleri Davies a cafodd Gwenllian ddangos ei thalent i hyfforddwyr Cymru a chael gwahoddiad i fynychu treialon yn Gaerdydd.
Chwaraeodd Gwenllian ar lefel ryngwladol am y tro cyntaf i dîm merched Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched yn 2017, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Eidal.
Rŵan, bydd yn rhaid iddi jyglo rhwng chwarae rygbi, gweithio ar y ffermio, a dilyn ei chwrs coleg. Heb sôn am unrhyw beth arall, mae ei hamserlen hyfforddi rygbi yn neilltuol: teithia i Fanceinion ddwywaith yr wythnos i hyfforddi efo Siarcod Sale, hyffordda yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yng Nghaerdydd deirgwaith yr wythnos, a chwblha sesiynau hyfforddiant personol/codi pwysau deirgwaith yr wythnos. Ond, fel y dywed Gwenllian, “does dim ots gennych yrru pellteroedd maith os ydych yn gwybod eich bod yn mynd i wisgo’r jyrsi goch ddiwedd yr wythnos”.
Cafodd dawn Gwenllian ym maes rygbi ei meithrin gan ei thad, Eryl, a thrwy chwarae rygbi di-reol yn y caeau gyda’i naw brawd a chwaer.
O ran ei gyrfa’n chwarae rygbi, roedd yn hwyr yn dechrau. Er iddi chwarae gyda’i brodyr a’i chwiorydd ar y fferm a chadw’n heini drwy helpu ei thad, ni wnaeth ddechrau cymryd pethau fwy o ddifrif tan i Nant Conwy sefydlu tîm i ferched dan 18 oed chwe mlynedd yn ôl.
Mae’r rhaglen Mynediad i Addysg Uwch yn agor y drws i fynd ymlaen i brifysgol ac mae Coleg Llandrillo wedi bod yn cynnig y rhaglen hon ers bron i 30 mlynedd. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi’i llunio ar gyfer oedolion nad ydynt wedi ennill llawer o gymwysterau yn yr ysgol ond sy’n dymuno paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.
Gwefan: www.gllm.ac.uk
Mae Gwenllian yn rhan o garfan Hydref Merched Cymru sydd yn paratoi i chwarae gemau rhyngwladol sydd yn cychwyn penwythnos yma.
?Gêm Rhyngwladol #1
???????Merched Cymru v Merched Japan
?️Sul 7 Tachwedd
?5yh
?️@ArmsParkCardiff
?️Ticedi
#SistersInArms
Pob Lwc ??????????