Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar brosiect diweddaraf Antur Waunfawr yng Nghaernarfon!
Bydd y Sied Werdd yn weithdy amlbwrpas, wedi’i adeiladu y tu ôl i’r Warws Werdd. Sefydlwyd y Warws Werdd yn 2004, ac mae’n rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr. Mae’r warws yn gwerthu dodrefn, nwyddau a dillad ail law, ac mae wedi’i lleoli ar Stad Ddiwydiannol Cibyn. Y gobaith wrth godi’r Sied Werdd ydi ehangu ar eu gwaith yn ailddefnyddio a thrwsio nwyddau.
Mae partneriaid yn gobeithio y bydd y Sied Werdd yn hwb i “economi gylchol” yr ardal leol.
Mae economi gylchol yn cael ei disgrifio fel economi sy’n cadw adnoddau mewn cylchrediad yn hytrach na’u llosgi neu eu taflu, a hynny er mwyn lleihau gwastraff. Mae hynny’n cael ei wneud drwy roi pwyslais ar ailddefnyddio a thrwsio.
Bydd adeilad y Sied Werdd yn cynnwys gweithdy sy’n canolbwyntio ar drwsio ac ailbwrpasu dodrefn a phrosesu dillad o fanciau dillad amrywiol. Bydd yr adeilad 156 troedfedd sgwâr hefyd yn cynnwys makerspace, gofod i weithio ag offer megis Argraffwr 3D, Torrwr Laser, a thorrwr feinyl.
Hefyd, bydd gofodau aml-ddefnydd ar gael i’r cyhoedd eu llogi.
Yn ôl Uwch Reolwr Antur Waunfawr, Haydn Jones:
“Mae cynaladwyedd amgylcheddol wrth galon gwaith Antur Waunfawr. Mae gennym dri busnes gwyrdd, ac mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i gynyddu’r arfer o ailddefnyddio, ailgylchu, a thrwsio nwyddau.
“Mae Llarpio Antur yn darparu gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol i fusnesau ac unigolion yng Ngogledd Cymru. Mae’r Warws Werdd yn gwerthu dodrefn, offer, a dillad ail law, ac mae Beics Antur yn siop llogi a thrwsio beiciau sy’n hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy. Hefyd, mae ein gardd ar y safle yn Waunfawr yn cynnig ffordd gynaliadwy o fyw, gan dyfu ein cynnyrch ein hunain.
“Ac rydan ni’n gobeithio rŵan y bydd y Sied Werdd hefyd yn cyfrannu at ein gwaith o hybu economi gylchol yr ardal hon.
“Tra bod ein prosiect Caergylchu yn canolbwyntio ar ailgylchu, rydym yn gobeithio y bydd y Sied Werdd yn symud mwy i gyfeiriad ailddefnyddio ac ail-bwrpasu nwyddau. Rhoi mwy nag un bywyd i nwyddau, fel petai.
“Bydd ychwanegu Sied Werd at waith yr Antur yn golygu mwy o ofod ar lawr ein siop gyhoeddus, y Warws Werdd, a bydd yn golygu ehangu’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant y gallwn eu cynnig i unigolion ag anableddau dysgu.”
Mae’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan OBR Construction.
Etholwyd y Cyng. Dewi Wyn Jones i gynrychioli ward Peblig ar Gyngor Gwynedd ym mis Mai 2022, ac roedd yn bresennol yn seremoni torri’r dywarchen.
Dywedodd:
“Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, bydd y gwasanaeth mae’r Warws Werdd yn ei gynnig yn bwysicach nag erioed, a bydd y gwaith o ailddefnyddio, ailbwrpasu, a thrwsio fydd yn cael ei wneud yn y Sied Werdd newydd yn helpu pobol y dre i leihau ein hôl troed carbon.
“Dwi wedi cael ar ddeall y bydd yr Antur yn dathlu ei phen blwydd yn ddeugain oed mewn rhai blynyddoedd hefyd, ac ymhen dwy flynedd hefyd bydd hi’n ugain mlynedd ers sefydlu’r Warws Werdd.
“Mae gan dref Caernarfon berthynas arbennig iawn efo’r Antur, a dwi’n gobeithio mai datblygu ymhellach wnaiff y berthynas honno efo dyfodiad Beics Antur i ganol y dre, a’r datblygiad cyffrous hwn ar Stad Cibyn.”