Blog byw: Gŵyl Fwyd fawr Caernarfon

Busnesau ac ymwelwyr o bob man yn heidio i ‘dre!

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn

Yn y blog heddiw: sgwrsio gyda’r stondinwyr, cip ar yr adloniant, a chasglu barn y bobol am yr ŵyl a’r bwyd!

Ydach chi yma?

Cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.

13:53

Mae’r dyrfa yn dal i dyfu a lot fawr yn meddwl am eu boliau. Cegin Caribi yn boblogaidd!!

13:49

Brysur iawn ym mhabell Coleg Glynllifon … ?

Cyfle i Adeiladu Tŷ Adar ?

Digon o Anifeiliad ??????

Arddangosfa Cneifio ?

Balŵns ?

13:08

“Mae’n grêt yma! Mae heddiw ’di bod yn gyfla i weld ffrindia’ am y tro cynta’ ers sbel – a mae’r tywydd braf yn help!”

Siôn Dafydd o Ddeiniolen. 

12:57

Caernarfon gan Gôrnarfon ???

12:53

Hir ddisgwyl am Gôrnarfon ar y Maes…

12:46

Gorymdaith gan Batala yn codi sŵn. 

12:45

“Dwi’n edrych ymlaen i wylio Bwncath ar y llwyfan! A gafodd ffrind fy mrawd i snowcone oedd yn fwy na’i ben o!”

– Gwion, 7 oed o’r Felinheli.

12:39

‘Chydig mwy o lunia

12:26

Torf yng Nghaernarfon!

12:12

Wedi prysuro’n ofnadwy yma – dewch draw i weld yr holl stondinau!