Roedd Carwyn Rhys Jones yn gystadleuydd ar gyfres ‘Yn y Ffram’ sydd wedi bod ar S4C yn ddiweddar.
Fel bachgen lleol o Landwrog aeth Carwyn i Ysgol Gynradd Llandwrog, mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen, yno astudio addysg uwch yn Coleg Menai Bangor cyn mynd ymlaen i astudio Celf yn Manceinion.
Mae Carwyn bellach yn byw ac wedi ymgartrefu yn Wrecsam yn gweithio mewn ysgol ar y hun o bryd gan weithio yn ychwanegol iddo ei hun fel ffotograffydd, peilot ‘drone’, golygydd a dyn camera!
Cefais y cyfle i holi a clicio efo Carwyn a dysgu am ei siwrna’ ym myd ffotograffiaeth!
Sut ddechreuodd dy ddiddordeb mewn ffotograffiaeth?
‘Mi nes i ddechrau ffotograffiaeth yn ddeunaw oed pryd gefais fy nghamera cyntaf fel anghref Nadolig gan fy rheini.
Yn wreiddiol o Llandwrog roeddwn wastad wedi cael fy ysbrydoli gan y tirwedd lleol. Roeddwn i yn gwybod fy mod eisiau dogfennu bywyd ers i mi fod yn ifanc.’
Sut brofiad oedd Cwrs Sylfaen Celf Coleg Menai?
‘Roedd astudio cwrs sylfaen celf yn Coleg Menai yn wych!
Roedd o yn flwyddyn prysur ond ofnadwy o addysgiadol. Roedd y tiwtoriaid yn dysgu ychydig o pob cyfrwng o phob agwedd o gelf fel rhagflas i chi gael y rhyddid i ddewis eich pwnc fel eich bod yn gallu canolbwyntio ar beth oeddech chi wedi ei fwynhau fwyaf.’
Beth wyt ti yn fwynhau am ffotograffiaeth?
‘Be dwi’n fwynhau am ffotograffiaeth yw ei fod yn rhoi y cyfle i chi allu mynegi eich hunan fel person a’ch arddull.
Mae o hefyd yn ffordd dda o ddogfennu bywyd ac dogfennu digwyddiadau hanesyddol a bydd yno i ddangos i’r genhedlaeth nesaf i adrodd beth oedd yn mynd ymlaen.’
Pa fath o ffotograffiaeth wyt ti yn fwynhau canolbwyntio arno?
‘Dwi’n hoffi gwneud tynnu lluniau dogfennol, mae o yn ffordd dda i weithio gyda amrywiaeth o bobl gwahanol gan ddweud eu stori.
Dwi ar hyn o bryd yn gweithio gyda cefnogwyr, gweithwyr ac cyn chwaraewyr Clwb Pel Droed Wrecsam. Mae ganddyn nhw gymaint o straeon difyr am eu amser yn cefnogi y clwb ac sut mae’r cefnogwyr wedi helpu ei gilydd dros y blynyddoedd.’
Sut wnes di gael y cyfle i fod yn gystadleuydd ar gyfres ‘Yn y Ffram’?
‘Fe welais fod Tinopolis yn hysbysebu y gyfres ar lein a roeddwn yn ffodus i gael y cynnig i fod yn rhan o’r gyfres.
Beth wnes di ddysgu am dy hun?
‘Dwi wedi dysgu fy mod yn berson reit annibynol ac yn ofnadwy o weithgar.’
Ble mae dy waith Ffotograffiaeth yn cael ei arddangos?
‘Mae fy ngwaith yn cael ei arddangos a’i werthu mewn sawl lleoliad.
Rywf yn gwerthu lluniau ar fy nhudalen Instagram ‘Carwyn Rhys Jones’ a bydd croeso i unrhyw gyda diddordeb mewn llun i yrru negas draw i fi ar Facebook neu Instagram.
Rydw i wedi bod yn ffodus i gael blwyddyn brysur. Mae fy ngwaith i ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Wrecsam, Amgueddfa Narberth yn Sir Benfro, Amgueddfa Sanffagan, ac yn Amgueddfa Cymru yn Gaerdydd.
Mi oedd fy waith ar ddangos yn y Galeri yn Gaernarfon yn ddiweddar ond bellach wedi dwad i ben.’
Pa gyngor fydde’ ti yn roi i unrhyw un yn meddwl cychwyn ffotograffiaeth?
‘Y cyngor mwyaf byswn yn rannu gyda unrhyw un ydi i wneud yn siwr eu bod nhw yn mwynhau be mae nhw yn greu’
‘Tops Tips’ sut i dynnu llun da?
‘Y brif beth fyddwn yn ddweud yw i gymeryd eich amser yn fframio y llun ac i gofio does dim byd yn curo golau naturiol’
Pa gamera wyt ti yn ei ddefnyddio?
‘Dwi yn defnyddio camera ‘Lumix G7 Mirrorless’ ar hyn o bryd. Mae genai ddipyn o gamerau Nikon hefyd ond mae well genai gael camera ysgafn allai fynd o gwmpas gyda fi yn rhwydd.’
Prosiect neu lun ti yn prowd ohono?
‘Dwi reit prowd o’r tri dogfen ffotograffiaeth rwyf wedi ei gyflawni.
Dwi wedi gwenud un am chwarelwyr Gogledd Cymru, un am Covid 19 yn ystod y cyfnod clo ac yn ddiweddar un gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Y prosiect dwi fwya’ prowd o ydi’r Chwarelwyr sydd ar ôl tair mlynedd yn dal yn cael ei arddangos o amgylch Gymru.
Dechreuodd y prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedyn mae wedi teithio i Abertawe i Amgueddfa Y Glannau ac erbyn hyn yn Amgueddfa Narberth yn Sir Benfro.
Mae yna ddiddordeb wedi bod yn Gaerdydd i’r prosiect symud ymlaen yno hefyd. Gai weld lle fydd y priosect yno yn parhau nesaf.
Manylion Cyswllt
Ffôn – 07527439530
Ebost – Carwynrhysjones92@outlook.com
Instagram – Carwyn Rhys Jones
Facebook – CRJ Photography
Behance – Carwyn Rhys Jones