gan
Hannah Hughes
Mae Cymdeithas Ddinesig Caernarfon newydd orffen prosiect cyffrous iawn i osod tros 40 o blaciau llechen o gwmpas tref Caernarfon, i nodi adeiladau o bwys, neu gartrefi unigolion nodedig yn y dref.
Yn ogystal, mae’r Gymdeithas wedi gosod Codau QR i roi llawer mwy o wybodaeth am yr adeiladau a’r unigolion, a fydd ar gael ar eich ffonau symudol.
Mae map hefyd wedi ei gyhoeddi i’ch arwain o amgylch y placiau, ac i ddarparu rhagor o wybodaeth am y Dref i drigolion ac i ymwelwyr.
Gweler y map a rhai o’r placiau yn y lluniau.
https://www.cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru/