Dwi’n siwr fod sawl un ohonom yn berchennog beic, wedi dysgu reidio beic, wedi cael beic yn anhreg Nadolig riw dro, wedi meddwl tyrchu allan y beic o’r sied neu wedi cael ein ysbrydoli i fynd allan ar ein beic yn ystod y cyfnod clo?!
Ond pwy sydd wir yn cael eu dysgu sut i ofalu a gwarchod eu beic?
Beth bynnag eich perthynas efo’ch beic chi byddwch yn ymwybodol fod busnes lleol Cogs y Gogs ar gael i ofalu, adnewyddu, trwsio neu drin eich beic chi!!
Mae Neil Jones yn fecanic gymwysiedig trwsio, trin a ‘convertio’ beics ers 13 mlynedd.
Mae Neil hefyd yn ddiweddar wedi cymhwyso fel mecanic beics trydan.
Gwasanaethau Cynnigir gan Cogs y Gogs
- Gwasanaethu Beics
- Gwasanaethu Arbennigol Bosch / Shimano EBikes
- Gwasanaethu ‘Gears’
- Gwasanaethu Brêcs
- Inner & Outer Gear Cable Replacement Internal / External Road / MTB
- Gosod ‘Groupset’
- Gosod ‘Chain’ / ‘Cassette’
- Olwynion Newydd
- Tâp Bar Beics
- a llawer mwy …..
Sefydlodd y busnes ‘Cogs y Gogs’ yn swyddogol yn 2019 gan leoli ei fusnes a’i weithdy yn Gaernarfon.
Collodd Neil ei waith fel cigydd yn mis Medi 2020 yn ystod y cyfnod clo ac roedd yn lwcus iawn i allu ffocysu ei egni a cychwyn gweithio llawn amser i’r busnes beics!
Yn ffodus i Neil, roedd y cyfnod clo yn amser hynod brysur i Cogs y Gogs gan fod pawb allan yn beicio ac eisiau gwasanaethu ei beics!
Mae’r busnes yn mynd o nerth i nerth ac yn brysur wneud llawer o wahaniaeth bositif yn y cymunedau lleol.
Mae Neil wedi bod yn gweithio ar wireddu prosiect ‘Beics am Ddim i Ysgolion Lleol’.
Yn ystod y cyfnod clo cafodd sawl beic plentyn ei basio ymlaen i Cogs y Gogs i’w trwsio a’i trin ac penderfynodd Neil wneud defnydd cynaliadwy gyda’r beics yn lle eu cadw ar safle.
Gyda cefnogaeth ei ‘right hand man’, ei fab Ethan Jones penderfynodd i ail adeiladu a trwsio y beics efo darnau oedd ganddynt yn y gweithdy!
Fe roddwyd sawl beic i ffwrdd am ddim i gefnogi teuluoedd lleol mewn cyfnod annodd ond sylweddolodd Neil fod ganddo fwy o feics dros ben a penderfynodd eu rhoi fel rhodd i ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan am ddim i allu annog dysgu beicio a chadw yn heini yn ystod amser ysgol ar yr amod fod Cogs y Gogs yn gwasanaethu a thrwsio y beics pan for angen! Hollol Wych!
Felly cofiwch gysylltu efo Cogs y Gogs os byddwch chi efo unrhyw feic allwch ei roi fel rhodd i wneud gwahaniaeth a rhoi cyfle i blentyn arall ddysgu beicio!
Mae Neil hefyd yn mwynhau mynd allan ar ei feic lôn ei hun pan mae ganddo amser a pan fydd y tywydd yn ffafriol! ?
Top Tips Cogs y Gogs
Argymell Beic Newydd i Ddechreuwyr?
Mae’n bwysig wrth i unrhyw un sydd yn cael beic newydd o unrhyw fath ei fod yn cael ei adeiladu gan fecanic proffesiynol gan fod beics fel rheol yn dwad mewn bocs mewn darnau (weithiau darnau coll, wedi ei torri neu plygu) ac mae’n bwysig cael beics saff a cywir!
Beth i gario gyda ti pan yn mynd allan ar y beic?
Tiwb beic ychwanegol yn ‘essential’, Tyre Levers, Pwmp Beic, Pres a Ffôn!
Hoff Siwrna’ Feicio Lleol Ti (Beic Lôn)?
Pontllyfni fyny at tai yn Lon, o Tai yn Lon i fyny at Capel Uchaf, o Capel uchaf draw drosodd at Parc Glasfryn a nôl wedyn ar y Lôn Bost tuag at Dinas Dinlle!! ‘Biwtiffyl’
Cysylltu gyda Cogs y Gogs
Uned 1, Parc Busnes Llandwrog, LL54 5TG
Ffôn: 07796023031
Gwefan: www.CogsYgogs.co.uk
Facebook:Cogs y Gogs
Instagram:cogygogs16377