Cefais yr anrhydedd i gwrdd a chyfweld Dafydd Iwan cyn iddo hedfan allan gyda Cymdeithas Pel Droed Cymru i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd! ⚽✈
Mae Dafydd yn ganwr, gyfansoddwr, gwleidydd, pregethwr a dyn busnes sydd wedi cefnogi, hyrwyddo a ffrwythloni ein Economi leol dros y blynyddoedd ond hefyd yn gyfaill ac yn rhan arbennig o’n Cymuned NI ac yn ysbrydoliaeth i’r Byd! 🏴
Fel darlithydd Busnes Lefel A yn Coleg Menai Llangefni, roeddwn eisiau i fyfyrwyr busnes gael y cyfle i holi cwestiynnau a gwrando ar gyngor o’r ardal leol a phwy well na dyn y foment Dafydd Iwan sydd wedi sefydlu a chyfarwyddo sawl Cwmni Lleol, wedi bod ar frig siartiau I Tunes, ddwy waith! A sydd dâl ati i weithio a ysbrydoli heb ddim sôn am arafu lawr!! 🤩
Mae’r cyfweliad yma yn adlewyrchu llwyddiannau Dafydd a’i waith ddi-ddiwedd yn hyrwyddo pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg, i gefnogi ein gilydd a dwi’n diolch iddo am y cyfle i gael sgwrs.
Pob Hwyl yn Qatar 🏴⚽🎵
Diolch Dafydd – AM BOPETH!
#YmaoHyd #ArBenyByd #ArwrNi