Yn ddiweddar cynhaliwyd diwrnod agored (ac agoriad swyddogol!) Beics Antur, siop hurio beics Antur Waunfawr ym Mhorth yr Aur, Caernarfon.
Mae perthynas Antur Waunfawr gyda Chaernarfon yn un bwysig, a dechreuodd stori Beics Antur nôl yn 2014 pan ddaeth busnes Beics Menai dan adain yr Antur. Bryd hynny lleolwyd y busnes yn yr Hen Gei Llechi. Daeth yn amlwg yn fuan y byddai angen mwy o le yn y pendraw er mwyn manteisio’n llawn ar y cyfle a sicrhau fod amcanion yr Antur yn cael eu gwireddu.
Roedd yn bleser gwahodd Adam Hitchings i agor yr adeilad yn swyddogol. Adam yw Rheolwr Datblygu Cymru ar gyfer y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol. Gwaith y gronfa yw cefnogi cymunedau ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd newydd a mentrus i adfywio hen adeiladau.
Mae’r clip uchod yn rhoi blas ar y Diwrnod Agored.
Hoffai’r Antur achub ar y cyfle i ddiolch i a chydnabod yr arianwyr:
- Y Gronfa Dreftadaeth Bensaerneiol
- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
- Sefydliad Garfield Weston
- WCVA
- Y Gronfa Gofal Integredig
A’r Partneriaid allweddol:
- Galeri
- GISDA
- Cyngor Gwynedd
- Ysgol Pendalar