Bu Cian Green, 18 oed, o Nantlle ond yn chwaraewr rygbi i Glwb Rygbi Caernarfon sydd yn fyfyriwr Weldio a Ffabrigo Lefel 3 ar gampws y coleg yn Llangefni – yn cystadlu yng nghystadleuaeth y tîm dan 20 gan godi 100kg ‘Snatch’ a 130kg ‘Clean and Jerk’.
Dechreuodd Cian godi pwysau er mwyn cryfhau ar gyfer chwarae rygbi, ond erbyn hyn mae’n bencampwr codi pwysau dan 20 ac yn dal record Cymru!
Cynhaliwyd y gystadleuaeth genedlaethol yn ddiweddar yng Nghanolfan Brailsford, Prifysgol Bangor, a daeth y gystadleuaeth genedlaethol â chodwyr ifanc ac iau o bob rhan o Gymru ynghyd i gystadlu yng nghystadlaethau codi pwysau cyntaf Cymru yn 2022.
Dywedodd Cian: “Rwy’n falch iawn gyda fy mherfformiad ym Mhencampwriaethau Cymru. Rydw i
wedi bod yn hyfforddi 4 gwaith yr wythnos i baratoi, ac wedi gorfod trefnu fy hyfforddiant o
amgylch fy ngwaith coleg. Fedra’ i ddim aros i weld sut mae’r flwyddyn hon yn dod yn ei blaen, ac
rydw i’n gobeithio un diwrnod cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.”