Mae pawb yn adnabod Nathan Craig! Y Cofi sydd wedi tyfu fyny yng nghanol y Dref sydd wedi bod yn brysur gwneud enw iddo ei hun ym myd pel droed ac bellach yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal gadw yn heini a chael hwyl!
Mae Nathan yn cynnig gwersi pêl-droed i enethod a bechgyn oedran 2+ ac wedi sefydlu Pel Droed Nathan Craig Football
@nathancraigfootball
Gyrfa Nathan fel Chwaraewr
Ymunodd Nathan gyda Everton yn 12 oed ac, ar ôl symud ymlaen drwy rengoedd y tîm ieuenctid, cynigiwyd le iddo blwyddyn gyntaf yn yr Haf 2008.
Yn arbenigwr ciciau rhydd, chwaraeodd yn rheolaidd yn y tîm dan 18 yn ystod y tymor 2008/09.
Gyda Nathan efo’r hyblygrwydd i fod lawr yr ystlys chwith a chyflwyniad y set, symudodd ymlaen i fod wrth gefn gyda tîm Everton yn 2009/2010 a daeth yn aelod rheolaidd yn ystod tymor 2010/2011.
Cafodd ei gêm gyntaf gystadleuol yn y tîm cyntaf yn erbyn BATE Borisov ar 17 Rhagfyr 2009 yng Nghynghrair UEFA Europa.
Ar y cyfan, gwnaeth Nathan 217 o ymddangosiadau tîm cyntaf i Dîm Pel Droed Caernarfon gan sgorio 87 gôl – dychweliad rhyfeddol i gefnwr chwith/asgellwr.
Enillodd 11 cap i dîm dan 17 oed Cymru, naw i’r tîm dan 19 a phedwar ar lefel dan-21.
Waw! Tipyn o Gamp!
Cafodd Caernarfon360 y cyfle i ddwad i adnabod Nathan a dwad i wybod mwy am ei fenter newydd llwyddiannus sydd yn rhoi cyfle i nifer roi cynnig ar bel droed yn y Fro!
Beth yw dy swydd di?
Cymhorthydd Adran Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen (Llawn Amser) a
Cyfarwyddwr Busnes Hyfforddi Pêl-droed – Pel Droed Nathan Craig Football
Ers faint o flynyddoedd wyt ti yn gwneud hyn?
Dwi wedi bod yn gweithio yn Ysgol Syr Hugh Owen ers 6 mlynedd bellach.
Sefydlais busnes Pel Droed Nathan Craig ychydig dros flwyddyn a hanner yn ôl.
Pam cychwyn menter dy hun?
I fod yn onest roedd cael llawer o amser rhydd dros y cyfnod clô wedi gwneud i fi feddwl.
Daeth o syniad bach yn ystod y nôs i greu tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol a dyna wnes i gyntaf y bore wedyn a datblygodd ….
Beth wyt ti yn fwynhau am dy swydd?
Dwi wrth fy modd yn creu awyrgylch positif a gwneud yn siwr bod pawb o hyn yn cael hwyl a mwynhau eu hunain mewn amgylchedd saff.
Mae hi hefyd yn gret gallu rhoi yn ôl i’r gymuned sydd wedi rhoi llawer o gyfleuoedd i fi yn ifanc, fel Cofi sydd wedi mynychu yr ysgol dwi’n teimlo fy mod yn gallu unieithu efo’r disgyblion a datblygu perthynas ar y cyd efo’r gymuned leol.
Faint o blant sydd yn hyfforddi peldroed yn wythnosol?
Yn ystod tymor Ysgol byddaf siwr o fod yn hyfforddi rhwng bob dim tua 250-300 o blant ag yn ystod hanner tymor Ysgol o gwmpas 250 o blant.
Pwy sydd yn helpu chdi?
Ti sydd yn hyfforddi’r hyfforddwyr?
Mae gennym ni grŵp o wirfoddolwyr ffantastic a mae nhw gyd yn mynd ar y cyrsiau ‘Football Leaders, First Aid, Safeguarding course’ ac yn barod i gefnogi a bod yn rhan o’r fenter.
Faint o dîmau / plant a pobl ifanc wyt ti wedi hyfforddi?
Rwyf wedi hyfforddi dros 20 o dîmau gwahanol dros y blynyddoedd!
Be arall ti yn ei wneud fel rhan o dy swydd?
Byddaf yn darparu sesiynau pel droed wythnosol, sesiynau a gwersylloedd yn ystod hanner tymor, cynnig sesiynau grŵp neu tîmau penodol, cynnal partis penblwydd themau pel droed a sesiynau preifat 1 i 1. Unrhyw gefnogaeth gan ddefnyddio pêl!
Hoff beth am y swydd?
Gallu cael dylanwad bositif ar blant lleol (enwedig gan fy mod yn gallu unieithu fel bachgen o Dre fy hun) a gweld nhw i gyd gyda gwên ar ei gwynebau yn mwynhau cymeryd rhan. Mae’n gret gallu rhoi y cyfle a gweld gwerth yn fy ymdrechion.
Wy ti wedi cael profiadau neu chynnigion arbennig ers sefydlu Pel Droed Nathan Craig?
Dim llawer hyd yn hyn ond mae gen i ddipyn o syniadau ar y gweill i’r dyfodol agos ond mi gefais i alwad ffôn blwyddyn diwethaf gan gwmni enwog TruSox eisiau i mi fod yn Lysgennad iddyn nhw ar ôl iddyn nhw weld fy ngwaith ar y Cyfryngau Cymdeithasol.
Beth sydd yn annodd?
Mae hi yn annodd cael cydbwysedd!
Mi fyswn ni yn medru gwneud llawer mwy o sesiynau a bod o amgylch sawl ysgol Gynradd yn ystod yr wythnos ond efo swydd llawn amser yn yr Ysgol Uwchradd mae hyn yn amhosib, ond gobeithio yn y dyfodol agos (gyda chefnogaeth Llwyddo’n Lleol) bydd Pel
Droed Nathan Craig yn gallu ehangu a chael pobl yn gweithio i’r fenter.
Sut mae rhywun sydd ffansi rhoi cynnig ar bel droed yn mynd ati i ymuno?
Rydym ni yn cynnig pel droed i bechgyn a genethod o 2 oed i fyny ag i bob gallu felly mae croeso i chi gysylltu ar unryw blatfform cyfryngau cymdeithasol, ebost neu dros y ffôn
Cadwch lygaid ar wefan Pel Droed Nathan Craig i ddwad i wybod am y sesiynau a chynniogion diweddaraf ac i logi eich lle.
https://nathancraigfootball.class4kids.co.uk/
Sut mae hi wedi bod arnot yn ystod y cyfnod clo?
Gret, yn amlwg roedd rhaid addasu pobeth a meddwl sut oeddwn yn gallu cario ymlaen i hyfforddi felly wnes i benderfynu cynnig sesiynau ‘ball mastery skills’ dros Zoom yn rhithiol.
Targedau ar gyfer y dyfodol?
Datblygu Pel Droed Nathan Craig i’r cam nesaf, cael gweithwyr llawn amser yn mynd o amgylch ysgolion, clybiau a mudiadau yr ardal yn cynnig sesiynau Pel Droed yn ddyddiol a gawni weld ble awni o fano….
Mae Nathan Craig yn brysur gwneud gwahaniaeth i fywydau a ysbrydoli cannoedd o blant a phobl ifanc yr ardal gan ddefnyddio pel droed ac edrychwn ymlaen i glywed am ddatblygiadau ei fudiad llwyddiannus!
Pob Hwyl i ti Nathan ⚽??