Jody Cain yn parhau i Ysbrydoli 🌟

Cydlynydd Chwaraeon yn Ysbrydoli, Hyrwyddo a Hyfforddi Pel Droed yn Qatar âš˝

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
60079898-0FA5-431B-9F11
94E95D44-FF85-44DE-A092
40509843-2E45-42A4-B243

Pleser cael sgwrs gyda Jody Cain o Gaernarfon sydd yn gyn- ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen a Choleg Menai Bangor sydd newydd ddychwelyd o fod yn hyfforddi pêl-droed a hyrwyddo ein diwylliant yn Qatar!

⚽Sut gesdi y cyfle i fynd allan i Qatar?

Cefais y cyfle gan fod i’n gweithio i Urdd Gobaith Cymru fel cydlynydd datblygu chwaraeon.
Roedd y profiad yn un bythgofiadwy gan fod i’n caru pêl droed ac yn chwarae i dîm lleol Merched Felinheli.
Y prif reswm i fynd oedd i drosglwyddo a hyrwyddo neges ymgyrch “Fel Merch” allan i wlad lle mae gwahaniaeth mawr rhwng cyfleoedd sydd ar gael i ddynion a merched.

âš˝ Be wyt ti yn ei wneud fel rhan o dy swydd (Cydlynydd Chwaraeon) i’r Urdd?

Rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gael cyfle mewn amrywiaeth o chwaraeon gwahanol gyda phlant pob oed ar draws oedrannau gwahanol mewn ysgolion a chlybiau cymunedol ar hyd a lled Eryri, yn ogystal â gwneud pecyn Chwarae yn Gymraeg, sef pecyn chwaraeon i blant i ddysgu’r iaith Cymraeg drwy gymryd rhan mewn chwaraeon.

âš˝ Oedd hi yn boeth yn Qatar?

Boeth iawn!
Dim awel o gwbl yn y dydd, a dim llawer gwell yn ystod y nos! Roedd angen digon o eli haul!

âš˝ Wnes di fwynhau’r profiad?

Mi wnes i fwynhau pob eiliad!
Mi wnes i fwynhau hyfforddi sesiynau gyda merched yn unig a hyfforddi sesiynau i blant o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol.
Bore cyntaf yn yr ysgol, mi oedd ganddyn nhw ddiwrnod rhyngwladol ble roedd pawb yn gwisgo dillad i gynrychioli eu gwlad. Mewn dosbarth o 24 o ddisgyblion roedd 23 ohonynt yn dod o wledydd gwahanol (yn cynnwys un o Lanfairpwll!!)

Mi wnes i fwynhau gan fy mod i erioed wedi mynd tramor i wneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.
Roedd yn brofiad gweld traddodiad gwledydd arall a gweld y gwahaniaethau rhwng Cymru a Qatar! Yn ogystal mi oedd yn bleser gallu hyrwyddo ein gwlad, iaith a’n gwerthoedd i gynulleidfaoedd newydd!

âš˝ Wyt ti yn mwynhau gwylio Cwpan y Byd?
Yndw rwyf yn edrych ymlaen at wylio gweddill y gemau ar y teledu a dilyn y grwpiau!

âš˝ Oedd yr ysgolion / cymunedau yn Qatar yn ymwybodol o Gymru?

Pan oeddwn yn cerdded trwy’r strydoedd yn gwisgo fy nghrys Cymru, roedd llawer yn gweiddi Gareth Bale ac yn adnabod y crys a felly roedd llawer yn gwneud y cysylltiad oherwydd Bale!

Mae Jody yn gyn-fyfyrwraig Addysg Awyr Agored yng Ngholeg Menai, Bangor ac bellach yn gweithio llawn amser i Urdd Gobaith Cymru fel Cydlynydd datblygu chwaraeon.

Roedd Jody yn Llysgennad i’r Ifanc yn yr ysgol ac aeth ymlaen â’i thaith fel Llysgennad yn y coleg gan sicrhau ei lle fel Llysgennad Actif Aur.

Mae hi’n athletwraig o fri ac yn ei hamser sbâr mae hi’n chwarae pĂŞl-droed i DĂ®m PĂŞl-droed Merched Felinheli ac yn aelod o Redwyr Eryri (Eryri Harriers).

Yn 2019, aeth Jody i gynrychioli Cymru a chystadlu yn Ras Rhedeg Mynydd Rhyngwladol dan 18 oed fel rhan o Dîm Athletau Cymru.

Mae Grŵp Llandrillo eisioes wedi lansio’r ymgyrch “Urddas yn ystod Mislif” i gael gwared ar yr hyn sy’n rhwystr diangen i addysg ac i annog dysgwyr i ddelio’n hyderus â’u mislif.
Mae’r Coleg hefyd am gael gwared ar y tabŵs sy’n gysylltiedig â mislif ac i wneud sgyrsiau am fislif yn fwy arferol, fel nad yw dysgwyr yn teimlo embaras neu gywilydd wrth ofyn am gymorth.

Roedd Jody yn rhan mawr o’r ymgyrch Nid Yw’n Rhwystr

Diolch am ddal i ysbrydoli a bod yn fodel rôl arbennig Jody 🤩

#arbenybyd #felmerch #llysgennad #arweinydd #ysbrydoliaeth