Dyma Nia Tomos yn adrodd hanes sut sefydlodd Tîm o Walis – Tîm Pel Rwyd yn Gaernarfon
1. Pryd gychwynodd Tîm o Walis?
Sefydlwyd Tîm o Walis yn 2012, er doedd dim enw swyddogol arnom ni bryd hynny. Ro’n i’n ôl yn yr ardal ar ôl graddio o’r Brifysgol ac yn awyddus i chwarae pêl-rwyd. Roedd y tim gwreiddiol yn gymysgedd o deulu (diolch byth am dair o fy chwiorydd!), ffrindiau a chyd-weithwyr o’r fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd. Doeddem ni ddim eisiau chwarae’n gystadleuol, dim ond cael dipyn o hwyl, janglo, cael nosweithiau allan, ac ella chwarae ’chydig o bêl-rwyd hefyd!
2. Faint o dimau sydd ganddoch chi?
Erbyn hyn rydym ni yn glwb gyda 10 o dimau. Mae’r aelod ieuengaf yn 10 oed a wnawn ni’m sôn am oed yr hynaf yn ein plith! Mae’r timau ieuenctid yn cael llawer o hwyl a llwyddiant yn y gynghrair ar ddydd Sadwrn, ac mae’r timau hŷn yn chwarae yng nghyngrair Gwynedd a Môn ar nos Fawrth neu nos Fercher yn Ganolfan Hamdden Plas Silyn, Penygroes. Rydym yn falch iawn bod ganddom 5 tîm yng nghyngrair oedolion Gwynedd a Mon eleni – record i’r clwb!
3. Pam Tîm o Walis?
Roeddem ni eisiau enw oedd yn adlewyrchu ein pwrpas, sef chwarae i gael hwyl a gwneud yn siwr fod pawb yn cael cyfle. Roedd yr enw “Tîm o Walis” (sy’n deillio o’r gyfres deledu boblogaidd C’mon Midffild) yn addas gan ein bod yn gallu bod yn dipyn o ffars ar brydiau! Dwi’m yn meddwl fod neb wedi chwerthin gymaint yn chwarae pêl-rwyd a wnaethom ni yn ein tymor cyntaf yn y gyngrhair (heblaw efallai y dyfarnwyr oedd yn ceisio cadw trefn arnom i gyd). Erbyn hyn mae’r gair “Walis” yn rhan o enw pob tîm a phawb yn ein hadnabod fel ‘Clwb Pêl-Rwyd Walis Caernarfon’.
4. Pryd a lle ydach chi yn ymarfer?
Mae ymarferion y plant ar nos Sul yn y Ganolfan Tenis yn Gaernarfon ac ymarferion yr oedolion bob Nos Lun yn Neuadd Chwaraeon, Canolfan Hamdden yn Gaernarfon.
5. All aelodau newydd ymuno â chi?
Mae rhestr aros ar hyn o bryd ar gyfer ymarferion yr oedolion! Os oes rhywun yn chwilio am gyfle i chwarae, mae ‘na groeso i chi gysylltu hefo ni trwy’r gwefannau cymeithasol.
Rydym yn cynnal treialon blynyddol ar gyfer ein tîm ieuengaf, sef blwyddyn 4 a 5. Bydd y treialon nesaf yn cael eu cynnal yn y gwanwyn (gwybodaeth ar dudalen facebook a twitter y clwb maes o law).
Oherwydd nifer yr hyfforddwyr o fewn y clwb a gan mai dim ond 7 sydd mewn tîm a 12 mewn sgwad, yn anffodus, pur anaml y mae’n bosib i ni dderbyn chwaraewyr newydd i’r timau ieuenctid presennol. Rydym yn gobeithio gallu datblygu clwb ymhellach ac ehangu’r tîm hyfforddi i roi cyfle i fwy o chwaraewyr… felly os oes gan unrhyw un sy’n darllen yr erthygl yma ddiddordeb mewn hyfforddi- plis cysylltwch!
Cewch groeso, cymorth ac arweiniad gan y tim hyfforddi presennol yn ogystal â chyfleoedd i ennill cymhwysterau hyfforddi.
6. Ers faint wyt ti yn hyfforddi?
Dw i yn ôl hefo’r Walis ers symud yn ôl i Gymru yn 2020 ac wedi bod yn hyfforddi y genod ers 2021. Ond, mae mwyafrif o’r criw hyfforddi presennol wedi bod hefo’r timau ieuenctid ers iddynt ddechrau hefo’r Walis o 2014 ymlaen. Mae’r hyfforddwyr ar tîm rheoli yn hynod ymroddgar ac yn gwneud yr holl waith yn hollol wirfoddol. Mae’r clwb a’r genod yn lwcus iawn ohonynt.
7. Pam hyfforddi? Be ti’n fwynhau?
Yn amlwg, dw i wrth fy modd yn gweld y genod yn datblygu a magu hyder ar y cwrt a thu hwnt. Ond yn fwy na hyn, dwi’n cael pleser yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc lwyddo. Mae pêl-rwyd yn tyfu’n gyflym gyda gemau y ‘superleague’ yn cael eu dangos ar y teledu erbyn hyn a braf yw gweld cyfleoedd i ferched gyrraedd y lefel uchaf ym myd chwaraeon.
Ond, er mor wych ydy gweld hyn, wrth i bethau ddatblygu a symud ymlaen, yn anffodus mae ein hardal ni mewn perygl o gael ei hesgeuluso! Siom ddiweddar oedd gweld fod Pêl-Rwyd Cymru wedi creu academiau newydd ym mhob ardal o Gymru heblaw ardal Gogledd-Orllewin Cymru. Felly, mae’r cyfrifoldeb yn ein hardal dal yn disgyn ar wirfoloddwyr i redeg cyngrheiriau a dod â thimau at eu gilydd i roi cyfleon i blant a phobl ifanc. Dwi’n mwynhau bod yn rhan o hyn a chael gweld sut mae clybiau gwahanol yn yr ardal yn tyfu ac yn rhoi cyfleon i’r holl bobol ifanc fasa fel arall yn gorfod dibynnu ar adrannau chwaraeon eu hysgolion yn unig.Mae’n hynod bwysig ein bod ni fel hyfforddwyr a threfnwyr yn y Gogledd Orllewin yn parhau i weithio hefo’n gilydd i hybu pêl-rwyd yn yr ardal yma a dangos i Bêl-Rwyd Cymru fod gan yr ardal hon lond trol o dalent!
8. Beth nesaf i’r Walis?
Wrth i’r clwb dyfu, yn naturiol mae’r angen am offer hefyd wedi tyfu. Roedd hi wedi dod yn dipyn o broblem canfod hyfforddwyr hefo ceir digon mawr i symud yr holl stwff o le i le! O ganlyniad i waith di-flino dwy o’n hyfforddwyr (Tina Williams a Maureen Japp) mae’r clwb wedi sicrhau arian i brynu ‘cynhwysydd’ penodol i storio offer y clwb.
Mae diolch y clwb yn fawr i‘r ddwy ac i Ysgol Syr Hugh Owen am ganiatau i ni ei gadw ar eu tir. Diolch arbennig hefyd i Dylan o gwmni Humphreys and Sons Plant Hire am wirfoddoli ei amser a’i JCB i baratoi’r tir.
Y cam nesaf fydd llenwi y storfa a gwahodd Dylan draw i weld canlyniad ei waith arbennig a gweld os allwn ni ei ddennu i chwarae gêm o bêl-rwyd rhyw dro… twrnament cymysg efallai!