Wythnos prysur ym mywyd Clwb Hoci Caernarfon!! 🏑
Mae wythnos yn hedfan heibio, rhwng gwaith, teulu a bywyd cymdeithasol! Ond pan mae clwb hoci yn rhan o fywyd prysur criw o ferched, mae bywyd yn brysur ofnadwy!!!
O un penwythnos i un arall does na ddim stop ar y trefnu, y chwarae a’r “group chats” o oedrannau gwahanol yn fflachio!! Ond pam rhoi ein hunain trwy hyn?? Wel er mwyn rhoi cyfle i gymaint o enethod yr ardal gael hwyl, mwynhau, cymdeithasu a chwarae hoci!! Dyma ni gip ar beth sy’n mynd ymlaen yn ein clwb hoci ni!
Dydd Sul roedd hi’n bleser fod gan y clwb dau dîm dan 16 yn cystadlu yn nhwrnament hoci dan 16 Gogledd Cymru ym Mhwllheli.
Nid ar chwarae bach mae cynnal niferoedd uchel o enethod yn eu arddegau i chwarae hoci ar y penwythnos a ni oedd yr unig glwb yno yn cystadlu efo dau dîm. Roedd Hoci Cymru yno yn cwestiynu’r hyfforddwyr beth yn union mae’r clwb wedi ei wneud i godi niferoedd aelodaeth ifanc y clwb gan fod y clwb yn ffynnu gymaint!
Gwaith caled ac amser prin criw bychan o wirfoddolwyr sy’n sicrhau y datblygiad anhygoel yn niferoedd y clwb. Ac mae’r gwaith caled yna i’w weld rhwng 6 a 9 o’r gloch ar nos Fercher pan mae plant o blwyddyn 2 hyd at oedolion yn hyfforddi hoci.
Nos Fercher daeth Tim o Hoci Cymru draw er mwyn gweld sut mae hyfforddwyr ifanc y clwb yn dod yn eu blaen yn dilyn cwrs hyfforddi tymor diwethaf. Canmoliant mawr oedd gan y Tîm i’r criw oedd yn hyfforddi wrth iddynt drefnu a chyfathrebu gyda’u grwpiau.
Mwy o waith trefnu wedyn i sicrhau 4 tîm ar gyfer y penwythnos!
Bore Sadwrn chwaraeodd y tĂ®m 1af adref yn erbyn Ruthin yn rhan o gemau Adran 1 Hoci Merched Gogledd Cymru. Gyda bron bob un efo llond pen o anwyd neu cur pen ar Ă´l y noson gynt, roedd hi’n mynd i fod yn fore heriol! Ond gyda pasio cyflym, cydweithio da – goliau gwych gan ein capten a hyfforddwraig Lois Parry-Jones, roedd yn braf gorffen rhan cyntaf y tymor efo buddugoliaeth o 2-1.
Bwyd sydyn yn y Padarn yn Llanberis i bawb ar ddiwedd y gêm cyn mynd nôl i’r cae i wylio’r ail dîm yn chwarae! Mae’r ail dîm yn cystadlu yn ail adran Hoci Merched Gogledd Cymru sydd eleni yn adran i ddatblygu hoci ieuenctid, a dim ond 4 chwaraewraig dros 18 sy’n cael bod yn rhan o’r tîm. Ond gyda gymaint o ferched ifanc awyddus, mae’n fraint cael sefyll ar ochr y cae yn gwylio genod 14-16 oed yn chwarae hoci neis. Er iddynt golli 4-1 yn erbyn ail dîm Dysynni, roedd y meddiant gan y Cofis ond methu sgorio trwy amddiffynwyr profiadol Dysynni. Gan orffen y diwrnod nôl yn Padarn Llanberis yn cael bwyd a cynllunio a sicrhau fod popeth yn ei le ar gyfer trefniadau y diwrnod canlynol!
Ac yna gorffen yr wythnos ar ddydd Sul gyda dau dîm yn cystadlu!
Bu criw bach dan 10 yn chwarae mewn Cynghrair Datblygu yn Hawarden sy’n gyfle gwych i’r criw bach gael chwarae gemau yn erbyn clybiau eraill Gogledd Cymru. A bu’r tîm dan 18 yn chwarae yn nhwrnament Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Gyda rhai o’r genod yn chwarae eu trydydd gêm o’r penwythnos!! Mae’n amlwg fod y genod yma yn mwynhau eu bywyd hoci hefyd!
Wythnos cyfan o hoci yn hedfan heibio! A pawb yn edrych ymlaen i’r nesaf, ond hon fydd wythnos olaf o hoci cyn cael seibiant am y Nadolig!! Wythnos fawr a prysur. Mi fydd criw y pwyllgor yn mynd draw i’r Galeri nos Fawrth i noson Wobrwyo Chwaraeon Gwynedd (bydd Caernarfon360 yno yn gwneud Blog Byw).
Mae’r clwb ar y rhestr fer ar gyfer 2 wobr, sef Clwb Ieuenctid y flwyddyn a Gwirfoddolwraig y flwyddyn. Da ni’n gobeithio y bydd Sion Corn wedi galw heibio yn y cae nos Fercher i adael anrheg Nadolig i’r criw ieuenctid ac yna mae’r criw hŷn yn cael eu parti Nadolig nos Sadwrn!!!
Tydy rhedeg clwb hoci a bod yn aelod o’r clwb byth yn stopio, mae rhywbeth angen ei drefnu neu problem angen ei ddatrys o hyd. Ond mae’n waith tîm arbennig o dda ac yn bleser i’w wneud wrth weld y cyfleoedd mae merched yr ardal yn gael gennym.
Os ydych chi ym mlwyddyn 2 Ysgol Gynradd neu’n hŷn a’r wythnos prysur yma yn codi awydd codi ffon hoci arnoch chi neu’ch plentyn, yna mae croeso i chi ddod i ymarfer efo ni!!
Cae bob tywydd Ysgol Brynrefail, Llanrug
Pob Nos Fercher
Blwyddyn 2-7 am 18:00 tan 18:45
Blwyddyn 8 a 9 am 19:00 tan 19:45
Blwyddyn 10 a hĹ·n am 19:45 tan 21:00
Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar
Twitter @HociCaernarfon
Facebook Clwb Hoci Merched Caernarfon https://www.facebook.com/ClwbHociMerchedCaernarfon
Instagram @clwbhocicaernarfon