Caffi’r Bedol yn Ffynnu!

Caffi Menter Cymunedol Bethel yn mynd o nerth i nerth. 

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
IMG_3527

Mae Caffi’r Bedol sydd yn rhan o Fenter Cymunedol Bethel yn mynd o nerth i nerth ond angen eich cefnogaeth i gyrraedd ein nôd nesaf sef adnewyddu y gegin er mwyn gallu gweini a chynnig gwasanaethau ychwanegol i’r gymuned a phobl leol.

Mae Caffi’r Bedol wedi bod yn gaffi hynod lwyddiannus ym mhentref Bethel ers ail-agor eu drysau nôl yn 2022 ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych i weld y Caffi yn ffynnu er gwaethaf gorfod gwynebu heriau annisgwyl a chostau byw yn cynnyddu. 

Mae’r Caffi bellach yn cyflogi staff lleol o’r pentref, yn defnyddio cynnyrch lleol, gyda trwydded alcohol ac yn brysur fod yn leoliad canolog i drigolion y fro allu cymdeithasu. 

Mae’r Caffi yn cynnig Coffi lleol Poblado, paratoi bwyd a danteithion cartref ffres yn ddyddiol, cefnogi a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau lleol, trefnu a chefnogi digwyddiadau, rhentu gofod ac yn leoliad sesiynau wythnosol i grŵpiau a mudiadau y fro! 

Cwmniau a Chynnyrch Lleol: 

•Darluniad 

•Nansi Nudd 

•Poblado 

•BlodauHafodFlowers 

•FlowersbyGwen 

•Gemwaith Arianna 

•Cotwm Donna Marie 

•Printiau Loz Anne 

Bellach mae Caffi’r Bedol ar agor 6 diwrnod yr wythnos (Llun i Sadwrn) rhwng 10:00 – 16:00 gyda’r bwriad i allu chynnyddu oriau agor i gynnig llawer mwy! 

Er mwyn symud ymlaen gyda’r Fenter hon, mae Caffi’r Bedol yn gobeithio codi arian i ail ddatblygu y gegin i ddelio gyda’r galw a oergell gymunedol er mwyn cychwyn stocio Siôp Bedol a dyma lle’r ydym angen eich cefnogaeth chi. 

Gwerthfawrogwn ei bod hi yn amser annodd ond byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad. 
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu chi i Gaffi’r Bedol. 

https://gofund.me/bf4c1f4d

Diolch 

Tîm Caffi’r Bedol 🫶🏼