Mae Dolig yn gyfnod prysur yn Dre, gyda gwahanol grwipau a busnesau’n cynnal digwyddiadau i ddathlu’r ŵyl. Yn y gorffennol mae ’na ffeiriau Dolig wedi cael eu cynnal yn Neuadd y Farchnad a’r Hen Lys, ac mae ffair Dolig flynyddol yn rhan o galendr Gŵyl Fwyd Caernarfon a Galeri Caernarfon ers rhai blynyddoedd bellach.
Ond eleni mae’r grwpiau’n dod at ei gilydd i gynnal un farchnad fawr er mwyn creu bwrlwm yn y dre.
Bydd y farchnad yn cael ei chynnal ar draws 5 lleoliad, o un pen y dre i’r llall, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yn cynyddu footfall ac yn annog ymwelwyr i fwynhau arlwy busnesau lleol wrth deithio o un lleoliad i’r llall.
Yn ôl Osian o Gŵyl Fwyd Caernarfon:
“’Da ni’n gobeithio y bydd y digwyddiad yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau pawb.
“Yn hytrach na threfnu a hysbysebu llond llaw o farchnadoedd ar wahân, a chael niferoedd llai yn ymweld â phob ffair, mi feddylion ni y basa’n llawer gwell trefnu un farchnad fawr, ar y cyd, a fyddai’n hawlio’r dre i gyd am ddiwrnod.
“Mae o’n golygu na fyddwn ni’n dyblygu stondinwyr, yn cystadlu am yr un ymwelwyr, ac yn drysu pobol efo gwahanol ddyddiadau.
“’Da ni’n gobeithio hefyd y bydd cynnal y farchnad ar draws 5 lleoliad yn cynyddu footfall yn y dre ei hun. Drwy gerdded o Galeri i Neuadd y Farchnad, ymlaen i’r Hen Lys cyn cerdded i lawr i Cei Llechi a’r Stesion, bydd pobol yn cerdded drwy ganol y dre, heibio i fusnesau a siopau annibynol sydd angen pob cefnogaeth.
“Mi ydan ni’n ymwybodol fod y Nadolig yn gyfnod prysur i bawb, ac mae uno i greu un farchnad fawr yn golygu bod mwy o amser i bobol fwynhau gweithgareddau Nadoligaidd eraill sy’n cael eu trefnu yn y dre, fel noson Dolig Hwb, er enghraifft.
“Yn ogystal â’r farchnad ei hun, bydd côr yn perfformio yn Galeri, bydd cerddoriaeth Nadoligaidd ar draws y lleoliadau yn ogystal â groto Sion Corn ar y trên yn y Stesion. Bydd modd archebu slot efo Santa ar-lein yn fuan, felly cadwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol yr Ŵyl Fwyd.”
Cynhelir y Farchnad yn Galeri Caernarfon, Neuadd y Farchnad, Yr Hen Lys, Cei Llechi, a’r Stesion, a hynny ar 18 Tachwedd rhwng 10:30 a 16:00. I dderbyn rhagor o wybodaeth, cliciwch ‘yn mynd’ ar y digwyddiad Facebook.