Gŵyl gwrw fwya’r byd yw Oktoberfest, a gynhelir yn flynyddol ym Munich rhwng canol mis Medi a dechrau mis Hydref, gyda mwy na chwe miliwn yn mynychu.
Ond fis nesaf bydd fersiwn o’r ŵyl gwrw boblogaidd yn cael ei chynnal yn nhre’r Cofis.
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon, un o wyliau bwyd mwyaf Cymru yn cael ei chynnal yn flynyddol yn y dref, ac mae’n denu mwy na 30,000 o ymwelwyr bob mis Mai. A’r mis nesaf mae’r pwyllgor yn cynnal eu Oktoberfest eu hunain i godi arian ar gyfer yr ŵyl.
Mae’r digwyddiad wedi’i alw’n ‘Loompah Noson’, enw sy’n chwarae ar yr ymadrodd llafar ‘lwmp o noson’, ac Oompah, cerddoriaeth band pres gwerin a gysylltir yn draddodiadol â’r Almaen, Awstria, a’r Swisdir.
Gobaith y trefnwyr yw rhoi blas o Oktoberfest i’r dref.
Yn ôl Osian Wyn Owen, un o’r trefnwyr:
“Mae’r ŵyl fwyd wedi dod yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n amlwg yn beth cadarnhaol. Ond mae’n golygu cynnydd mewn costau hefyd, ac o’r herwydd mae pwyllgor yr ŵyl yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar raddfa lai trwy gydol y flwyddyn i godi arian.
“Ac rydan ni wedi cyffroi’n lân medru rhannu gwybodaeth am ein digwyddiad nesaf!
“Bydd Loompah Noson yn cael ei chynnal yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 14 Hydref, ac rydym yn annog pobl leol i ymuno â ni ar gyfer gŵyl gwrw draddodiadol.
“Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg wedi’i hysbrydoli gan y bandiau gwerin Oompah traddodiadol yng nghwmni Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas.
“A gan fod y digwyddiad yn cael ei drefnu gan Ŵyl Fwyd Caernarfon, bydd bwyd Almaenig ar gael gan Neuadd y Farchnad, a bydd digon o gwrw lleol ar werth gan Bragdy Lleu, Bragdy Cybi, a Bragdy Mona.
“Rydym hefyd yn eich annog i ddod mewn gwisg Almaenig draddodiadol. Felly ewch i dyrchu am eich lederhosen a dirndls!
“Rydan ni’n ffodus iawn i gael Neuadd y Farchnad yng nghanol y dref, ac rydan ni’n gobeithio troi’r adeilad yn Bierkeller, neuadd gwrw Almaenig draddodiadol.”
Cynhelir Loompah Noson yn Neuadd y Farchnad, Stryd y Plas, Caernarfon ar 14 Hydref am 7pm. Mae tocynnau yn £15, ac ar gael gan Palas Print neu drwy ddilyn y ddolen hon.