Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd yw cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dai, a bydd yn trafod ei ymweliad â’r Ŵyl Dai Ryngwladol mewn digwyddiad arbennig ddiwedd y mis.
Cynhelir Yr Argyfwng Tai: Gwersi gan wledydd eraill yn y Bar Bach, Caernarfon nos Iau, Medi 21 am 7:00PM, a bydd Mabon yn myfyrio ar ei ymweliad â’r ŵyl yn Barcelona ym mis Mehefin.
Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol aeth Mabon i’r ŵyl gan obeithio dysgu gwersi gan wledydd eraill am sut y gall Cymru fynd i’r afael â’i hargyfwng tai. Hefyd, ym mis Mawrth 2023 mynychodd Gynhadledd Tai Genedlaethol Iwerddon. Er bod Iwerddon ymhlith gwledydd cyfoethocaf y byd, mae’r wlad, ac yn enwedig ei phrifddinas Dulyn, yn wynebu argyfwng tai ar raddfa sylweddol.
A’r wythnos nesaf bydd Mabon ap Gwynfor yn rhannu rhai o’r pethau a ddysgodd yn y ddwy gynhadledd fel rhan o gyfarfod cyhoeddus yng Nghaernarfon.
Yn ôl Mabon:
“Mae’r argyfwng tai yn wynebu pobl a chymunedau ar draws y byd, ond mae’r argyfwng yn fwy aciwt mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol.
“Sut mae mynd i’r afael â’r argyfwng yma?
“Dw i wedi teithio i Vienna, Barcelona a Dulyn, ac wedi cwrdd â chynllunwyr polisi a darparwyr tai yn yr Iseldiroedd, De Tyrol, Ffindir, Ffrainc, Canada a gwledydd eraill er mwyn gweld pa gamau sydd sy’n cael eu cymryd yno er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i glywed pa arferion da y gall Cymru eu dysgu er mwyn dechrau datrys y broblem yma.”
Cynhelir noson yng nghwmni Mabon ap Gwynfor yn Bar Bach, Caernarfon nos Iau, Medi 21 am 7:00pm ac mae mynediad am ddim. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.