Mae’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon wedi canmol ymdrechion y ganolfan gymunedol oedd yn ofni am ei dyfodol. Yn wyneb yr argyfwng costau byw a chynnydd mewn biliau ynni, roedd Canolfan Noddfa yng Nghaernarfon yn wynebu dyfodol ansicr, ond mae’r criw yn teimlo’n fwy gobeithiol ar ôl derbyn cefnogaeth ariannol.
Mae Canolfan Noddfa wedi’i lleoli yng nghanol ward Peblig yng Nghaernarfon, ac mae gwirfoddolwyr a staff yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi trigolion lleol yn wyneb yr argyfwng costau byw, gan gynnwys Croeso Cynnes Noddfa, clwb amser cinio sy’n rhedeg yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf, ac sydd yn ei thrydedd flwyddyn.
Ond roedd yr argyfwng costau byw yn her i Noddfa ei hun, ac roedd biliau ynni cynyddol yn destun pryder mawr i wirfoddolwyr. Fodd bynnag, diolch i nifer o geisiadau grant llwyddiannus gan staff ac aelodau’r pwyllgor, mae Canolfan Noddfa ar dir cadarnach.
Mae grantiau gan y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Grymuso Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Caernarfon a Menter Môn wedi golygu bod gwaith wedi ei wneud i wneud Canolfan Noddfa yn fwy cynaliadwy yn economaidd ac amgylcheddol.
Yn ddiweddar aeth yr Aelod lleol o’r Senedd draw i’r ganolfan i ddiolch i’r tîm am eu gwaith:
“Mae Noddfa wedi bod wrth galon y gymuned hon ers y 50au, ac mae gan lawer o bobl gysylltiad dyfn â’r lle. Mae’n gartref i Gylch Meithrin mwyaf Gwynedd sy’n golygu bod rhai o atgofion cynharaf trigolion y stad yn fan hyn.
“Mae gan bobl atgofion melys o bartïon pen-blwydd, digwyddiadau cymunedol, a boreau coffi. Mi fyddai’n drasiedi lwyr tasai cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu hamddifadu o’r atgofion hynny a’r ymdeimlad yna o gymuned.
“Felly diolch i wirfoddolwyr ac aelodau staff Noddfa am weithio’n galed ar geisiadau grant, a diogelu’r adnodd hanfodol yma at y dyfodol.
“Dwi’n falch o gynrychioli etholaeth sydd wedi datblygu yn rhyw fath o grud ar gyfer gweithredu cymunedol, llawr gwlad. Ar draws yr etholaeth, mae gwirfoddolwyr, pwyllgorau a mentrau cymdeithasol yn egino wrth i fwy a mwy o gymunedau gymryd rheolaeth dros eu dyfodol eu hunain.
“Mi fyddai ein bywydau a’n cymunedau yn dlotach heb lefydd fel Noddfa a’r bobl sy’n cadw’r llefydd yma i fynd.”
Dewi Wyn Jones sy’n cynrychioli ward Peblig ar Gyngor Gwynedd. Yn ôl Dewi:
“Mae’r cymorth ariannol rydan ni wedi’i dderbyn yn golygu ein bod wedi gallu lleihau ein costau ynni yn sylweddol drwy osod paneli solar, goleuadau LED, boeleri newydd, mwy ynni-effeithlon, yn ogystal â gwneud gwaith inswleiddio.
“Yn ogystal â bod yn fwy effeithlon yn ariannol, mae’n golygu ein bod ni’n chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy leihau ein hôl troed carbon.
“Mae’r grantiau hefyd wedi ein helpu gyda gwaith i gynyddu incwm drwy gyflogi ymgynghorydd marchnata, creu brand, peintio’r tu mewn, a gosod arwydd newydd.
“Mae nifer o ystafelloedd ar gael i’w llogi trwy gysylltu â ni’n uniongyrchol.
“Fel y Cynghorydd Sir dros y ward hon, dwi’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r ardal, a dwi’n gwybod pa mor bwysig ydi adnoddau fel Noddfa i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hynny.
“O’r gwaith ataliol i’r gwaith rydan ni’n ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol: mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r adnoddau yma. Dyna pam mae’r cymorth ariannol diweddar wedi bod yn achubiaeth i Noddfa.
“Fel y dudodd ein cadeirydd Desmond yn ddiweddar mewn fideo Facebook, ‘Mae’n galon i’r gymuned.’”