Mae cyfarfod cymunedol yn cael ei gynnal i drafod y bwriad i godi gorsaf nwy a pheiriant chwalu concrit ar hen safle gwaith brics yng Nghaernarfon.
Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal gan Caernarfon Lân, criw o drigolion pryderus sy’n ymgyrchu yn erbyn dau ddatblygiad gan Jones Brothers Ltd. Y cyntaf o’r cynigion yw gorsaf nwy i gynhyrchu trydan i’w werthu i’r Grid Cenedlaethol a’r ail gynnig yw gwaith malu a phrosesu concrit ar yr un safle.
Ymysg y pryderon niferus ynghylch y cynnig hwnnw mae allyriadau gwenwynig a llygredd sŵn, a’i effaith niweidiol bosibl ar iechyd pobl leol a byd natur.
Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal nos fory (Mehefin 11) am 6yh yng Nghlwb Rygbi Caernarfon. Mae croeso i bawb; mae’n bwysig fod llais y gymuned yn cael ei glywed!