gan
Osian Wyn Owen
Cyfle i drafod pryderon efo gwleidyddion lleol yw cymhorthfa.
A dydd Gwener bydd Siân Gwenllian a Cai Larsen yn cynnal cymhorthfa ar y cyd yng Nghaernarfon.
Mae Siân yn cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru, ac fe gafodd Cai ei ethol i gynrychioli ward Canol Tref Caernarfon ar Gyngor Gwynedd yn 2022.
Mae croeso i bobol leol ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, yn cynnwys iechyd, tai, ac addysg, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, yn cynnwys casgliadau sbwriel a chaniatâd cynllunio.
Er mwyn mynychu’r gymhorthfa, cysylltwch â’r swyddfa i drefnu apwyntiad drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.