Yn ychwanegol i’r stondinau bwyd, diod, crefft a chynnyrch lleol, a’r tri llwyfan cerddoriaeth, bydd dwy ardal newydd sbon yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon eleni, sef Pentref Bwyd Môr, ac ardal arbennig i deuluoedd yn Dros yr Aber.
“Rydan ni’n gyffrous iawn am y ddwy ardal newydd,” meddai Nici Beech, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon. “Mae nifer fawr o deuluoedd yn dod i’r ŵyl felly roedd yn gam naturiol i ddatblygu’r ardal yma yn Parc Coed Helen, dros yr Aber yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus yno ym mis Medi llynedd.
“Rydan ni wedi ail-leoli lloc anifeiliad Coleg Glynllifon yno ac yn ogystal a stondinau bwyd a diod a bariau. Mi fydd yr ardal yn llawn diddanwch trwy gydol y dydd yng nghwmni staff lleol Yr Urdd a Byw’n Iach. Yn ogystal â hynny bydd, gweithgaredd celf a chrefft a digon o adloniant a cherddoriaeth, gan gynnwys neb llai na Cati a Gruff o griw Cyw!”
Bydd Pentref Bwyd Môr yr ŵyl i’w weld am y tro cyntaf eleni yn Cei Llechi, wedi ei drefnu mewn cydweithrediad ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.
“A ninnau ar lan y Fenai, be well na phentref bwyd môr?” ychwanegodd Nici. “Mi fydd y pentref yn cynnwys arddangosfeydd coginio a llwyth o weithgareddau difyr yn ymwneud â’r môr mawr gan gynnwys celf ryngweithiol a cherddoriaeth.”
Prif atyniad yr ŵyl sy’n cael ei chynnal yng nghanol tref Caernarfon yn flynyddol ers 2016 yw’r bwyd, a gyda dros 120 o stondinau bwyd a diod eleni, dylai bod rhywbeth yma at ddant pawb.
“Rydan ni wrth ein boddau yn cael stondin yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon,” meddai Margaret Ogunbanwo, perchennog Maggie’s African Twist. “Mae ’na bob amser awyrgylch anhygoel yn y dref ar y diwrnod, ac mae’n gyfle, nid yn unig i werthu llawer iawn o gynnyrch, ond hefyd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”
Mae’r ŵyl, sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei threfnu’n llwyr gan wirfoddolwyr, hefyd yn dod yn fwyfwy adnabyddus am ei harlwy cerddorol. Eleni bydd rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth Gymraeg ar lwyfannau’r ŵyl yn cynnwys Bob Delyn a’r Ebillion a Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas, a bydd blas lleol cryf hefyd gyda pherfformiadau gan fandiau o’r ardal gan gynnwys Magi Tudur a Geraint Løvgreen a’r Band. Heb anghofio am lwyfan y corau, ble bydd hyd at 10 o gorau lleol yn perfformio gydol y dydd.
“Mae cynaladwyedd yn egwyddor bwysig iawn i ni fel gŵyl,” ychwanegodd Nici. “Felly bydd cwpanau ailddefnyddiadwy mewn defnydd eto eleni. Rydym yn annog pobl i gerdded neu beicio yma neu dod ar fws, ac rydan ni’n ddiolchgar i sawl cwmni bws sydd yn cynnig rhagor o fysiau nac arfer i Gaernarfon o wahanol gyfeiriadau ar y diwrnod.”
Er bod arlwy mor helaeth ar y fwydlen, mae’r ŵyl yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i bawb. Amcangyfrif bod costau’r ŵyl bellach oddeutu £50,000, a’r llynedd fe heidiodd dros 35,000 o bobl draw i Gaernarfon ar gyfer y diwrnod mawr.
“Petai bob ymwelydd â’r ŵyl yn rhoi £3 yr un, mi fyddai hynny’n talu am yr ŵyl!” meddai Nici, cyn ein hatgoffa y bydd gwirfoddolwyr yn casglu rhoddion ar y diwrnod. Mae modd rhoi arian parod mewn bwcedi, neu roi’n uniongyrchol trwy PayPal ar y diwrnod, neu unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.