Ffilm am apartheid yn dod i Gaernarfon

Mae Comrade Tambo’s London Recruits yn Theatr Seilo ar 29 Tachwedd

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
tambo-layout-v1

Golygfa o Comrade Tambo’s London Recruits

Mae drama ddogfen newydd sy’n adrodd stori gwirfoddolwyr o Brydain yn y frwydr yn erbyn apartheid yn Ne Affrica yn dod i Gaernarfon. Yn ogystal â dangosiad o’r ffilm, bydd sesiwn Holi ac Ateb, ac mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres sy’n digwydd ledled Cymru ym mis Tachwedd.

Comrade Tambo’s London Recruits ydi enw’r ffilm, a hi enillodd y wobr am y Rhaglen Ddogfen Orau yng Ngŵyl Ffilm Johannesburg yn Ne Affrica yn gynharach eleni. Ond mae gan y ffilm wreiddiau yng Nghymru.

Mae’r ffilm sy’n dilyn hynt ymgyrch gyfrinachol yn erbyn apartheid wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau o Gymro, Gordon Main. Yn ôl Gordon:

‘Fe ddes i wybod am y stori mewn hen dafarn bocsio yn Sblot, Caerdydd. Ro’n i’n eistedd gyda ffrind ac mi ddywedodd o ‘Mae gen i stori a fyddai’n gwneud ffilm wych.’ Fe soniodd am ffrind iddo a aeth i Dde Affrica yn ddistaw bach yn ugain oed yn y 70au cynnar a chymryd rhan mewn ymgyrch bropaganda feiddgar yn cynnwys gollwng ‘leaflet bombs’.

Wrth iddo adrodd y stori mi o’n i’n meddwl wrthyf fi fy hun, ‘Go iawn? Siawns na fyddwn i’n gwybod am griw o’r DU oedd wedi mynd allan a gwneud rhywbeth felly?’ Fe wnaethon ni drefnu cyfarfod efo’r ffrind ac wir, dim ond un mewn cyfres o deithiau oedd y daith hon. Unwaith y sylweddolais i fod y stori’n wir, ro’n i’n meddwl bod potensial am ffilm wych.”

Mae gwneuthurwyr y ffilm yn falch o’i gwreiddiau Cymreig. Yn wir, defnyddiwyd Hen Swyddfa Bost Hwlffordd, stad o dai yng Nghwmbrân a ffatri segur ym Mamheilad i ffilmio sawl golygfa bwysig.

Yn dilyn y dangosiad, sy’n digwydd yn Theatr Seilo ar Ddydd Gwener, 29 Tachwedd 7pm, bydd trafodaeth dan arweiniad Siân Gwenllian a chyfle i gwrdd â’r awdur Gordon Main.

Dweud eich dweud