Yn galw: chefs Caernarfon

Cymrwch ran yn y gystadleuaeth cyrri

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal cystadleuaeth cyrri er mwyn codi pres i gynnal yr Ŵyl yn 2025. Mae’r Pwyllgor yn amcangyfrif y bydd yr ŵyl yn costio tua £60,000 eleni.

Mae’r gystadleuaeth yn noson hwyliog lle mae cystadleuwyr amatur yn dod â llond crochan o gyrri i Glwb Rygbi Caernarfon ac mae’r gynulleidfa’n blasu pob cyrri’n ddall ac yn eu marcio allan o 10.

Bydd hyd at 10 cyrri i’w flasu ac mae’r marcio’n digwydd yn ddi-enw!

Llenwch y ffurflen hon os am gymryd rhan.

Dweud eich dweud