Gweinidog Llywodraeth yn ymweld â Noddfa

Dawn Bowden AS yn ymweld â Gwynedd.

Dewi Jones
gan Dewi Jones
BDD80F36-F2BF-47F9-97CC

Aelodau o fwrdd Noddfa a staff Cyngor Gwynedd gyda’r Gweinidog.

Yn ddiweddar bu i’r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS ymweld â Chanolfan Noddfa yn y dref.

Roedd y Gweinidog ar ymweliad â Gwynedd er mwyn gweld gwaith sy’n digwydd i gefnogi pobl.

Yn ystod ei hymweliad ymunodd â chlwb cinio’r ganolfan, Croeso Cynnes Noddfa. Mae’r cynllun s’yn cynnig prydau bwyd poeth i’r gymuned newydd gychwyn ar ei thrydedd flwyddyn.

Mae Croeso Cynnes Noddfa yn cael ei gynnal ar Ddydd Iau am 12:30yh gyda’r nesaf ar y 24ain o Hydref. Mae’r bwyd yn cael ei baratoi gan Age Cymru Gwynedd a Môn ac yn cael ei weini gan rai o wirfoddolwyr rheolaidd Noddfa.

Yn ddiweddar mae llawer o waith uwchraddio wedi digwydd yn Noddfa er mwyn ceisio lleihau costau’r ganolfan, mae hyn yn cynnwys gosod paneli solar newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sir, Dewi Jones:

Roedd hi’n braf gallu croesawu’r Gweinidog i Noddfa ddoe. Mae Noddfa yn le arbennig iawn, iawn ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei weld a’i ddathlu gan gymaint o bobl a phosib.

Os oes unrhyw un yn dymuno ymuno am ginio mae Dewi yn eu hannog i gysylltu efo fo drwy ebostio cynghorydd.dewijones@gwynedd.llyw.cymru neu trwy ffonio 07580 334554.

Dweud eich dweud