“Mae’n gyfle am jangl bach!”

Stiward Gŵyl Fwyd Caernarfon yn annog eraill i wirfoddoli

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
LYN

Lyn Jones yn gwirfoddoli y llynedd

Mae Lyn Jones wedi gwirfoddoli yn y ddwy Ŵyl Fwyd ddiwethaf, ac mae hi wedi trafod ei phrofiad er mwyn annog eraill i ddod yn wirfoddolwyr.

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ar 11 Mai eleni, ac mae’r pwyllgor yn trio dod o hyd i bobol i roi dwy awr o’u hamser i stiwardio. Gwirfoddolodd Lyn am y tro cyntaf yn 2022, a daeth yn ei hôl y llynedd. Mae wedi sôn profiad mor braf yw siarad ag ymwelwyr i’r ŵyl, a helpu ar ddiwrnod mor bwysig i’r dre.

Yn ôl Lyn:

“Y tro cyntaf imi wirfoddoli ro’n i wrth ymyl Porth yr Aur a llynedd ro’n i ar Stryd y Castell.

“Dwi wir yn mwynhau cymryd rhan yn y digwyddiad llwyddiannus bob blwyddyn a dwi’n falch o gyfrannu fy amser i ddigwyddiad mor arwyddocaol a phwysig i’r dref.

“Dwi’n hoffi cwrdd â phobol leol ac ymwelwyr sydd wedi dod i’r dref am y dydd.

“Mae gwirfoddoli yn gyfle da i hyrwyddo pwysigrwydd yr ŵyl yn ogystal â chael jangyl bach!

“Dim ond dwy awr o fy amser mae’r Ŵyl yn gofyn amdano fo, ac mae o’n waith didrafferth a hwyliog, er enghraifft, yn cyfeirio pobol at stondinau mewn gwahanol rannau o’r dref, neu leoliadau toiledau.

“Faswn i’n awgrymu unrhyw un sy’n medru rhoi eu hamser i wirfoddoli. Mae’n fraint medru dweud eich bod chi wedi helpu ar ddiwrnod mor bwysig.”

Os hoffech chi, fel Lyn, wirfoddoli yng Ngŵyl 2024, llenwch y ffurflen hon.