Crëwyd Ysbyrdoli gan Sbarduno yn 2019 i drosglwyddo gwybodaeth, sgiliau addysgol a diwydiannol i bobl ifanc o bob oed.
Bwriad y perchennog, Awen Ashworth, yw ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa o fewn STEM ac i feithrin eu diddordeb mewn Gwyddoniaeth.
Blaenoriaeth Ysbrydoli gan Sbarduno yw gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau a darparwyr eraill i hyrwyddo’r negeseuon allweddol o fewn addysg, boed hynny trwy STEM, llesiant neu Sgiliau Allweddol.
Mae’r Sesiynau Academi yn cael eu harwain gan athrawon brwdfrydig a phrofiadol, a hynny yn ystod tymor yr ysgol ac ar ôl oriau ysgol. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y disgyblion o fewn Mathemateg a phynciau STEM.
Cynradd
Mae’r broses gofrestru ar gyfer yr Academi Mathemateg Cynradd ac Uwchradd olaf y flwyddyn academaidd yma – AR AGOR!
Lle: Clwb Pêl-droed Bethel (LL55 3AA) Cynradd: Bob nos Lun yn ystod tymor ysgol. Uwchradd: Bob nos Fercher yn ystod tymor ysgol. Blwyddyn 3 i Flwyddyn 10. Am rhagor o wybodaeth neu i gofrestru: claire@sbarduno.com
Uwchradd
Mae Sbarduno wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda Choleg Menai mis Mawrth. Gyda’r bartneriaeth â nhw bellach yn swyddogol – mae’r cwmni yn edrych ymlaen i drefnu digon o weithdai, cyfleoedd ac ysbrydoli pobl ifanc Gogledd Cymru!
Mae wythnos ar ôl i gofrestru ar gyfer y sesiynau adolygu Gwyddoniaeth Blwyddyn 10.
Coleg Menai, Llangefni;
Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau a Phwllheli
Ar-lein!
Pryd? Gwyliau Hanner Tymor Sulgwyn. Haen Uwch a Sylfaenol
Byddwch yn Gyflym ……. Cyntaf i’r Felin ….