Gŵyl Cynhaeaf Arall yn un o ddwsin o brosiectau newydd i Grymuso Gwynedd

Pob cwr o’r sir yn manteisio ar Grymuso Gwynedd 

Heddiw, cafodd enwau’r dwsin o brosiectau newydd i dderbyn cyllid o gronfa Grymuso Gwynedd eu cyhoeddi, ac mae Caernarfon yn gartref i un ohonynt.

Bellach, mae dros 30 o gymdogaethau o bob cwr o’r sir yn cael cefnogaeth i redeg prosiect fyddai’n gwella’r gymdeithas leol mewn rhyw ffordd – o Bennal i ddinas Bangor; o Benrhyn Llŷn i Benllyn.

Mae’r rhaglen yn helpu cymunedau i ddatrys heriau trwy gydweithio i gynnig cymorth ariannol ac ymarferol i ddatblygu prosiectau lleol.

Creu yng Nghaernarfon

Bydd gŵyl amgylcheddol newydd ardal Caernarfon yn meithrin diddordeb a chodi hyder ac awydd pobl i gyfrannu at amryw o weithgareddau yn yr ardal. Bydd Gŵyl Cynhaeaf Arall yn rhoi llwyfan i drafodaethau, dangos esiamplau o brosiectau lle mae cyfleoedd i wirfoddoli, ac yn rhannu gwybodaeth am fentrau a busnesau amgylcheddol a chymunedol lleol – y cyfan trwy’r cyd-destun Cymreig.

Yna… pwy ag ŵyr? Efallai y bydd y profiad yn ysbrydoli datblygu gwyliau eraill tebyg mewn gwahanol rannau o Gymru.

Gweithredu yn Llwyngwril

Yr her sy’n wynebu cymuned Llwyngwril yw bod nifer o fewnfudwyr di-Gymraeg yn byw yn y pentref, a’r weledigaeth gan y Ganolfan yn y pentre ydy dod â gwahanol grwpiau at ei gilydd a phontio cenedlaethau drwy ddathlu hanes a hunaniaeth Gymreig yr ardal.

Bydd cyhoeddi llyfr yn llawn lluniau a hanesion nid yn unig yn cynyddu’r ymdeimlad o falchder yn lleol trwy ddathlu hanes unigryw’r ardal, ond bydd pobol yn dod ynghyd i gydweithio a chyd-drafod yn rhan o’r broses.

Datblygu ym Mhwllheli

Datblygu cyfleusterau gwell ar gyfer chwaraeon a defnydd cymunedol ydy gweledigaeth tymor hir Clwb Pêl-droed Pwllheli.

Yn y lle cyntaf, bydd y gronfa’n cynorthwyo’r clwb i wella ei drefniadau rheoli a hyrwyddo’r hyn sy’n cael ei gynnig eisoes, ac o adeiladu ar y seiliau cadarn hynny bydd modd symud ymlaen i gynyddu cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau, hamdden a gweithgareddau cymunedol, cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant, a gwella iechyd a lles trigolion yr ardal.

Y prosiectau:

  • Cofio’r Cant – Neuadd Goffa Cricieth
  • Mapio Dwfn Nantlle – Yr Orsaf
  • The Welsh Whisperers – Theatr y Ddraig
  • Theatr Derek Williams
  • Datblygiad yr Eagles – Menter Llanuwchllyn
  • Prosiect Tai Llanaelhaern – Antur Aelhaearn
  • Datblygu Hwb Cymunedol – Neuadd Groeslon
  • Datblygu Fic Bethesda – Tabernacl Cyf
  • Gŵyl Dewi Bangor – Menter Iaith Bangor
  • Hunaniaeth Amgueddfa Forwrol Llŷn
  • Menter Rabar – Cyngor Cymuned Llanengan
  • Papur newydd a gwefan fro – Pum Plwy Penllyn
  • HWB Cefnogi Cymuned – Y Dref Werdd
  • Ar y Dibyn – Maes Ni
  • Siop Menter y Glan
  • Ymgynghoriad Creadigol y Tŵr
  • Datblygu Capel Pencaenewydd
  • Dyfodol Llewyrchus i Noddfa
  • Prosiect Bwyd Porthi Dre
  • Gwyrfai Gwyrdd – Cyngor Cymuned Waunfawr Caeathro
  • Cae Pob Tywydd Y Felinheli – Clwb Chwaraeon Seilo Cyf.
  • Caru Coed y Brenin
  • Datblygu Hafod Ceiri
  • Budd Cymunedol Llwybr Llechi Eryri
  • Agor Drysau i’r Dyfodol – Cyfeillion Croesor
  • Gŵyl Cynhaeaf Arall – Gŵyl Arall / Pedwar a Chwech
  • Adfywiad Tŷ Siamas
  • Hwb Cymunedol Clwb Pêl-droed Pwllheli
  • Y Wagan – Menter y Plu
  • Paratoi at ddyfodol cynaliadwy – Grŵp Hamdden Ardudwy a Harlech
  • Bangor Maritime Heritage – Bangor PLUS
  • Prosiect Hanes Llwyngwril – Y Ganolfan Llwyngwril
  • Partneriaeth Dyffryn Peris – Caban CIC

 

Mae’r prosiectau hyn wedi’u hariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).