Y stori orau ar Caernarfon360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol dre’ bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

Rhestr fer Caernarfon360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar Caernarfon360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • Darparu dillad i blant ‘dre – Osian Owen 

Darparu Dillad i Blant Dre

Osian Wyn Owen

Mae criw gweithgar Porthi Pawb a Porthi Plantos wedi camu i’r adwy unwaith yn rhagor i ddarparu dillad ar gyfer plant Caernarfon.

 

  • Galar, furlough, banciau bwyd a chardiau Nadolig – Osian Owen

Galar, furlough, Banciau Bwyd a chardiau Nadolig

Osian Wyn Owen

Ymgyrch Cardiau Nadolig i godi arian i Fanc Bwyd Arfon.

 

  • Gwyndaf Williams, y gŵr busnes, wedi marw – Osian Owen 

Gwyndaf Williams, y gŵr busnes, wedi marw.

Osian Wyn Owen

Roedd Gwyndaf Williams yn ŵr busnes adnabyddus yn nhref Caernarfon

 

  • Mae’r brwydro yn parhau – Erin Bryfdir

 

  • Mae yna Rybish ar S4C ar nos Wener! – Barry ‘Archie’ Jones

 

  • Smwddis Swig – Tomos Huw Owen 

Smwddis Swig

Tomos Huw Owen

Cyflwyniad i fy nghwmni newydd.

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno

Bydd eich hoff stori ar Caernarfon360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.